Mae yna gynnydd wedi dod yn nifer y bobol sy’n mynd i wasanaethau’r Undodiaid ym Mangor.

Ers ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl, mae’r grwp yn denu mwy a mwy at eu cyfarfodydd, yn ôl Ysgrifennydd yr Undodiaid yng Nghymru.

“Beth sydd wedi digwydd ‘fanna yw dau neu dri o bobol wedi cwrdd, gyda meddwl tebyg, hynny wedi lledaenu trwy gylch o gyfeillion ac erbyn hyn mae rhyw 20, 30 o bobol yn addoli yn fisol ac yn gwneud gweithgareddau eraill hefyd,” meddai Carwyn Tywyn sy’n mynnu bod cred yr Undodiaid fod pawb yn gyfartal o flaen Duw beth bynnag yw eu ffydd a’u traddodiadau yw rhan o’r apêl.

“Pwrpas Undodiaeth, falle yw uno ac estyn mas i wahanol draddodiadau a chrefyddau yng Nghymru a thu hwnt.

“Un gyffelybiaeth rwy’n hoffi defnyddio yw, os y’ch chi’n meddwl am grefyddau mawr y byd fel y brics, Cristnogaeth yn bric mawr, Mwslemiaeth, Hindwiaeth, a fi’n hoffi meddwl amdanom ni Undodwyr fel ryw fath o fortar – ddim yn lot o ran nifer ond mae gyda ni’r gallu a’r syniadau i geisio uno a dod â phobol i ddealltwriaeth a’i gilydd,” meddai.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 1 Medi