Jacques Burger
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i Gwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Dyma ganllaw i Namibia, un arall o wrthwynebwyr Cymru yng ngrŵp D. Nhw yw’r gwlad isaf ar restr detholion y byd fydd yn cymryd rhan eleni – ond a allen nhw herio’r enwau mawr?
Daeth Namibia i’r rowndiau terfynol yn Seland Newydd yn un o ddau dîm sy’n cynrychioli gwledydd Affrica.
Bu’n rhaid iddi chwarae gêmau rhagbrofol yn erbyn Senegal, Zimbabwe a’r Traeth Ifori, cyn curo Tiwnisia yn rownd derfynol Cwpan Affrica.
Ar hyn o bryd mae yn yr 20fed safle ar restr goreuon yr IRB.
Safle tebygol: Colli pob gêm
Y record
Er bod Namibia wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd bob tro ers 1999, record wael sydd ganddi yn y gystadleuaeth.
Collodd bob gêm hyd yn hyn ac yn dilyn cweir o 142-0 yn erbyn Awstralia yn 2003 roedd rhai o’r farn na ddylai
tîm mor wan gael cystadlu yn y rowndiau terfynol.
Er hynny cafwyd perfformiad da ganddi yn erbyn Iwerddon yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2007, wrth iddi golli 32-17 yn unig.
Chwaraewr i’w wylio
Jacques Burger
Blaenasgellwr sy’n chwarae i’r Saraseniaid ym mhrif gynghrair Lloegr. Mae’n gyn-aelod o’r Bulls, un o dimau De Affrica sy’n chwarae yn y Super League.
Mae’n 28 oed ac wedi chwarae ers rhai blynyddoedd dros ei wlad.
Yr Hyfforddwr
Johan Diergaardt
Cafodd Johan Diergaardt ei benodi yn hyfforddwr yn Rhagfyr 2009 ar ôl treulio dwy flynedd fel hyfforddwr cynorthwyol.
Cafwyd canlyniadau cymysg o dan ei arweiniad y tymor diwethaf a dim ond un fuddugoliaeth a gafwyd mewn saith gêm yng nghystadleuaeth Cwpan Vodacom i dimau taleithiol De Affrica.
Yn ystod haf 2010 enillwyd gêmau yn erbyn timau A yr Alban a’r Eidal, ac yn erbyn Rwmania, ond colli oedd hanes Namibia yn erbyn Sbaen a Phortiwgal y tymor diwethaf.
Yr Hanes
Cafodd Namibia ei hannibyniaeth oddi wrth Dde Affrica yn 1990 a ffurfiwyd Undeb Rygbi Namibia yn fuan wedyn.
Cyn hynny byddai’r brodorion yn gymwys i gynrychioli De Affrica ar y lefel ryngwladol. Yn wir, roedd dau ohonyn nhw ymhlith chwaraewyr amlycaf y Boks, sef y blaenasgellwr Jan Ellis a’r cefnwr Percy Montgomery.
Bu Montgomery yn chwarae i Gasnewydd a Dreigiau Gwent rhwng 2002 a 2005 ac ef oedd y cyntaf i ennill 100 o gapiau dros ei wlad.
Mae 7,300 o chwaraewyr rygbi yn Namibia a bydd y tîm cenedlaethol yn cystadlu’n rheolaidd yng nghystadlaethau taleithiol De Affrica.
Cafodd rygbi ei gyflwyno i’r wlad yn 1916 gan filwyr De Affrica wedi i’r wlad honno gipio Namibia (neu Dde-orllewin Affrica fel yr oedd hi’n cael ei galw bryd hynny) oddi ar yr Almaenwyr.
A wyddoch chi?
Gan Namibia roedd y chwaraewr trymaf yng Nghwpan y Byd 2007, sef Marius Visser, prop oedd yn pwyso dros 22 stôn.
Llysenw’r tîm yw’r ‘Welwitschias’, sef enw ar blanhigyn sy’n tyfu yn yr anialwch yn Namibia ac Angola yn unig. Cafodd ei enwi ar ôl botanegydd o Awstria, Friedrich Welwitsch.
Mae 86% o boblogaeth y wlad yn groenddu a siaredir tair o ieithoedd brodorol Affrica yn gyffredin. Mae un rhan o dair o bobl groenwyn y wlad yn dal i siarad Almaeneg.
Bu tad Herman Goering, un o arweinwyr y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn Llywodraethwr ar y wlad am gyfnod.