Craig Bellamy
Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo cyn-chwaraewr Caerdydd, Craig Bellamy.
Gadawodd y dyn 32 oed wersyll hyfforddi tîm pêl droed Cymru yn y Celtic Manor ger Casnewydd ddoe er mwyn trafod â’r cochion.
Dyw Lerpwl ddim wedi datgelu manylion llawn y cytundeb eto, ond dywedodd y clwb fod Craig Bellamy wedi “arwyddo cytundeb”.
Mae’n debyg nad yw wedi costio ceiniog i Lerpwl, ar ôl cael ei ryddhau gan Manchester City am ddim. Yn ôl adroddiadau mae wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd o hyd, ac fe fydd yn gwisgo crys rhif 39.
Gadawodd yr ymosodwr Anfield yn 2007 ar ôl blwyddyn yn unig, ar ôl sgorio naw gôl mewn 42 gêm. Roedd ei gyfnod cyntaf â’r clwb yn un dadleuol wedi honiadau ei fod wedi ymosod ar chwaraewr arall, John Arne Riise, â chlwb golff.
Doedd Craig Bellamy heb chwarae yn gyson i’w gyn-glwb Manchester City ers i Roberto Mancini gymryd yr awenau ym mis Rhagfyr 2009, ac wedi ei fenthyg i Gaerdydd y tymor diwethaf.