Warren Gatland
Datgelodd Warren Gatland heddiw ei fod wedi gofyn am farn cyn-hyfforddwr aflwyddiannus Cymru, Gareth Jenkins, ynglŷn â sut i osgoi colli yng nghymal y grwpiau.

Daw’r sylwadau wrth i Gymru adael am Seland Newydd er mwyn dechrau eu paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd eleni.

Cafodd Gareth Jenkins ei ddiswyddo ar ôl i Gymru golli 38-34 yn erbyn Ffiji yn Nantes yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2007 yn Ffrainc.

Mae Warren Gatland wedi cael mwy o lwyddiant ers cymryd yr awenau, gan gynnwys ennill Camp Lawn ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2008.

Ond fe fydd ei afael ar y swydd yn cael ei benderfynu gan berfformiad Cymru yn Seland Newydd dros y mis neu ddau nesaf.

Bydd Cymru yn wynebu Ffiji unwaith eto yng nghymal y grwpiau, yn ogystal â De Affrica, Samoa, a Namibia.

Dywedodd Warren Gatland y byddai yn sicrhau nad oedd tîm Cymru yn chwarae yn yr un modd ag y gwnaethon nhw yn erbyn Ffiji yn 2007.

“Pegwn gyrfa pob chwaraewr a hyfforddwr yw cael cymryd rhan yng Nghwpan y Byd,” meddai.

“Mae arwain Cymru i Seland Newydd yn anrhydedd i mi a’r gobaith yw y bydd Cymru gyfan yn falch ohonom ni. Fe wnawn ni’n gorau glas.

“Rydw i eisoes wedi siarad â Gareth Jenkins a’i gynorthwyydd Nigel Davies ynglŷn â rhai o’r pethau aeth o’i le y tro diwethaf.

“Y peth mwyaf siomedig i’r hyfforddwyr oedd eu bod nhw wedi dweud wrth y tîm i chwarae gêm gyfyng yn erbyn Ffiji ond am ryw reswm fe aeth pethau ar chwâl ac fe ddechreuodd Cymru gymryd rhan mewn gêm agored iawn.

“O ganlyniad i hynny fe gafodd Gareth Jenkins y sac ond roedd y chwaraewyr yno’r wythnos wedyn.

“Bydd rhaid i ni chwarae gêm gyfyng iawn yn erbyn Ffiji a Samoa.”

Targedu De Affrica

Dywedodd fod gan Gymru siawns da o faeddu’r pencampwyr, De Affrica, yn eu gêm gyntaf ar ddydd Sul, 14 Medi.

“Rydyn ni wedi gwthio De Affrica i’r eithaf sawl tro a gobeithio y tro yma y byddwn ni’n fuddugoliaethus,” meddai.

“Dyma’r garfan gryfaf ydw i wedi bod yn rhan ohono erioed ac os nad ydyn ni’n dioddef sawl anaf mae gennym ni gyfle da.

“Mae’n wastraff amser hedfan i Seland Newydd os nad ydych chi’n bwriadu esgyn o’r grŵp a gwneud yn dda.

“Rhaid i ni gyrraedd rownd yr wyth olaf ac yna cymryd pob gêm yn ei dro. Rydyn ni’n credu ein bod ni’n ddigon da i wneud hynny.”