Fe fydd pencampwriaeth agored hŷn Prydain yn cael ei chwarae yng Nghymru yng Ngorffennaf 2014.

Bydd rhai o gewri’r hanes y gamp, fel Ian Woosnam, Bernhard Langer a Greg Norman yn bresennol wrth i gwrs brenhinol Porthcawl ennill y fraint o gael cynnal y gystadleuaeth.

Bydd y clwb yn debygol o gynnal nifer o dwrnameintiau ‘cynhesu’ o flaen llaw, cyn croesawu’r 28ain pencampwriaeth hŷn i Dde Cymru yn haf 2014.

Porthcawl fydd y 12fed cwrs i gael cynnal y bencampwriaeth ers iddo ddechrau.

Yn y gorffennol, mae’r cwrs lincs yma, sydd wedi’i leoli ar arfordir Sianel Bryste, wedi cynnal Cwpan Walker 1995, Pencampwriaeth Meistri Prydain yn 1961, a chystadleuaeth Clasur Cymru yn yr 80au cynnar.

Cynhaliwyd Cwpan Ryder hynod lwyddiannus yng Nghasnewydd yn 2010.

Bydd cefnogwyr golff Cymru yn hapus o glywed y newydd wedi i amryw o dwrnameintiau merched, Challenge Tour a’r categori hŷn yng Nghymru gael eu canslo.