Luke Charteris
Mae Dreigiau Casnewydd Gwent wedi cyhoeddi mai clo enfawr Cymru, Luke Charteris, fydd eu capten y tymor nesaf.

Bydd rhaid i Charteris fethu dechrau ymgyrch y rhanbarth tra ei fod gyda carfan Cymru yn Seland Newydd ar gyfer Cwpan y Byd.

Dywedodd hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards, mai’r cawr 6 troedfedd 9 modfedd yw’r dyn gorau i’w harwain.

“Mae agwedd ac arweinyddiaeth Luke wedi bod yn ardderchog yn ystod ei yrfa gyda’r Dreigiau,” meddai Edwards.

“Mae’n gweithio’n hynod galed, ac mae pawb sy’n rhan o’r clwb yn ei barchu.”

Datgela Edwards fod y penderfyniad i wneud Charteris yn gapten wedi ei wneud cyn bod carfan Cwpan Byd Cymru wedi ei gyhoeddi.

“Er ein bod ni’n ymwybodol na fyddai o yma ar gyfer wythnosau cyntaf y tymor, roeddem ni’n hyderus mai fo oedd y dyn gorau i’n harwain,” medd Edwards.

Y bachwr o Seland Newydd, Tom Willis, fydd yn gapten yn absenoldeb Charteris.

Rees yn parhau yn gapten ar y Scarlets

Mae rheolwr Llanelli, Nigel Davies hefyd wedi cadarnhau mai Matthew Rees fydd yn parhau’n gapten ar y Scarlets am yr ail dymor yn olynol.

Wedi llawdriniaeth ar yr anaf i’w wddf, mae’n debygol y bydd Rees yn gorfod methu oddeutu wyth i ddeg wythnos o’r ymgyrch newydd, ac felly fe fydd Iestyn Thomas yn cymryd yr awennau ar ddechrau’r tymor.

“Mae Matthew yn hynod broffesiynol ac yn arwain drwy esiampl dda,” meddai Nigel Davies.

“Mae gandd’r agwedd iawn, ac mae’n gosod safonau uchel i’w hun ac i bawb arall o’i gwmpas. Mae’r holl chwaraewyr yn y garfan yn ei barchu.”

“Fe fydd ei brofiad a’i gyngor ef yn allweddol ac yn ddylanwadol iawn wrth arwain carfan sy’n hynod o ifanc a brwdfrydig.”