Craig Bellamy
Fe all Craig Bellamy fod ar ei ffordd i ymuno gydag un o newydd ddyfodiad yr Uwch Gynghrair, Queen’s Park Rangers, cyn bod y cyfnod trosglwyddiadau’n dod i ben heno am 11pm.
Yn ôl sianel lloeren Sky Sports, mae Bellamy wrthi’n trafod y posibilrwydd o symud i’r clwb o Lundain gyda’u rheolwr, Neil Warnock.
Does dim lle i Bellamy yng nghynlluniau Roberto Mancini, rheolwr Manchester City, ac ni fydd safle iddo o fewn eu carfan 25 dyn ar gyfer y tymor nesaf yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd adroddiadau fod clybiau eraill, gan gynnwys Lerpwl a Tottenham, hefyd yn dangos diddordeb yn yr ymosodwr 32 oed.
Ond mae’n ymddangos y gallai QPR a’u perchennog cyfoethog newydd, Tony Fernandes, ei ddenu i Loftus Road.
Mae Bellamy yn rhan o garfan Cymru sydd wrthi’n paratoi yn Celtic Manor yr wythnos hon ar gyfer eu gêm yn erbyn Montenegro nos Wener.