Victor Matfield (llun y Lolfa)
Mae Lynn Davies wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Seland Newydd fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Dyma ganllaw i Bencampwyr y Byd, De Affrica, a fydd yn herio Cymru yn eu gêm gyntaf yng ngrŵp D. A fydden nhw’n dal eu gadael ar y gwpan eleni?
Enillodd De Affrica le awtomatig yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2011 gan mai hi a gipiodd y cwpan yn 2007.
Ond cymysg iawn fu perfformiad y Boks yn ddiweddar. Mae’n wir iddyn nhw ennill Cystadleuaeth y Tair Gwlad a maeddu’r Llewod yn 2009 ond daethon nhw’n olaf yng Nghystadleuaeth y Tair Gwlad eleni.
Mae nifer o’r un chwaraewyr yn eu carfan eleni ag oedd yn 2007 ac mae rhai yn teimlo nad ydyn nhw ar eu gorau erbyn hyn.
Safle tebygol: 3ydd
Record
Oherwydd polisi apartheid y wlad cafodd De Affrica ei gwahardd o Gwpan y Byd tan 1995. Y flwyddyn honno cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Ne Affrica a’r tîm cartref a gipiodd Gwpan Webb Ellis ar ôl rownd derfynol gofiadwy yn erbyn Seland Newydd.
Yn 1999 collodd yn y rownd gynderfynol yn erbyn Awstralia, gan fynd ymlaen i faeddu Seland Newydd i gipio’r trydydd safle. Enillodd y cwpan eto yn 2007 ar ôl curo Lloegr yn y ffeinal.
Chwaraewr i’w wylio
Victor Matfield
Yn ôl y farn gyffredin dyma’r clo gorau yn y byd. Mae’n feistr ar ennill y bêl yn y lein ar dafliad ei dîm ei hun ac yn aml ar dafliad y gwrthwynebwyr.
Mae e hefyd yn gyflym o gwmpas y cae. Yng Nghwpan y Byd 2007 cafodd ei ddewis yn chwaraewr gorau’r gystadleuaeth. Ers ei gêm gyntaf dros ei wlad yn 2001 chwaraeodd 105 o weithiau i’r Springboks.
Yr Hyfforddwr
Peter De Villiers
Cafodd Peter de Villiers ei benodi’n hyfforddwr yn 2008, y tro cyntaf i ddyn gwyn beidio â dal y swydd honno. O ganlyniad, cafwyd tipyn o anghydfod, gyda nifer yn honni mai oherwydd lliw ei groen y cafodd ei benodi.
Yr Hanes
Chwaraewyd rygbi gyntaf yn y wlad yn 1862 mewn gêm rhwng chwaraewyr oedd ar wasanaeth milwrol a dinasyddion cyffredin. Roedden nhw wedi dysgu sut i chwarae’r gêm yn rhai o ysgolion Lloegr.
Yn y man daeth y Springboks yn un o dimau rygbi cryfaf y byd gan chwarae’n rheolaidd yn erbyn timau gwledydd Prydain, Awstralia a Seland Newydd.
Ond, oherwydd gwrthwynebiad byd-eang cynyddol i bolisi apartheid De Affrica rhwng 1960 ac 1980, penderfynodd nifer fawr o wledydd beidio ag arddel unrhyw gysylltiad ffurfiol â hi ym maes chwaraeon.
Cafodd De Affrica ei derbyn ’nôl i gylchoedd rhyngwladol y byd rygbi yn 1992.
A wyddoch chi?
Defnyddiwyd yr enw Springboks ar dîm De Affrica yn ystod eu taith dramor gyntaf yn 1906. Yr ymwelwyr a ddewisodd yr enw eu hunain, springbokken, rhag i’r wasg yn Lloegr roi enw dilornus arnyn nhw.