Malky Mackay
Cadarnhaodd y rheolwr, Malky Mackay, fod Caerdydd wedi rhoi cynnig ar brynu’r amddiffynnwr, Ben Turner, o Coventry.
Mae’r Adar Gleision yn parhau i drafod gyda swyddogion Coventry, ond fe fydd rhaid frysio os ydynt am gadarnhau’r trosglwyddiad cyn diwedd y ffenestr am 11pm heno.
Mae adroddiadau’n honni fod Caerdydd wedi cynnig oddeutu £750,000 amdano yn ogystal â chynnwys yr ymosodwr mawr, Jon Parkin yn y dêl.
Teimla Mackay fod carfan Caerdydd angen ei atgyfnerthu er ei fod eisoes wedi arwyddo naw chwaraewr ers cymryd lle Dave Jones ym mis Mehefin.
Ar ôl colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe adawodd 12 o chwaraewyr Caerdydd gan gynnwys Craig Bellamy, Michael Chopra a Jay Bothroyd.
O ganlyniad i hynny, roedd gan Mackay lond ei ddwylo gyda maint y gwaith ailadeiladu oedd rhaid ei wneud gyda’r garfan.
Mae Caerdydd angen sicrhau fod ganddynt chwaraewyr sy’n gallu camu i’r adwy yn y llinell gefn, ac mae Turner yn chwaraewr amlbwrpas allai lenwi bwlch yn amddiffyn yr Adar Gleision.
Mae gan Turner dair blynedd yn weddill o’i gytundeb gyda Coventry. Mae wedi ennill 93 o gapiau ers symud i fyny o academi’r clwb, ac fe’i henwebwyd yn chwaraewr y flwyddyn yn nhymor 2008/09.
Ond fe fu rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth ar ei ben glin wedi anaf ym mis Tachwedd y llynedd a dyw e heb chwarae ers hynny.
Mae sôn fod Dinas Birmingham hefyd yn awyddus i’w arwyddo.