Brendan Rodgers, hyfforddwr Abertawe
Mae Abertawe wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r gôl geidwad Almaeneg, Gerhard Tremmel, ar gytundeb dwy flynedd.

Bu’r golwr 32 oed gyda’r Elyrch ar fenthyg am gyfnod, ac fe wnaeth gryn argraff mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Celtic a Real Betis.

Mae Brendan Rodgers eisoes wedi arwyddo dau olwr arall dros yr haf.

Gadawodd Dorus de Vries am Wolverhampton Wanderers wedi’r tymor diwethaf, ond mae Michel Vorm wedi cael dechreuad disglair i’r tymor wedi iddo gyrraedd Abertawe o FC Utrecht yn yr Iseldiroedd.

Fe brynwyd Jose Moreira o Benfica ym Mhortiwgal hefyd.

Ond roedd Rodgers yn amlwg yn teimlo fod angen rhagor o chwaraewyr wrth gefn yn y safle, yn enwedig o ystyried fod y golwr ifanc, David Cornell, wedi ymuno a Hereford ar gyfnod ar fenthyg.

Yn ei yrfa hyd yn hyn, mae Tremmel wedi chwarae i Red Bull Salzburg, Hertha Berlin, Energie Cottbus a Hannover yn yr Almaen.

“Bydd rhaid i mi fod yn amyneddgar oherwydd mae Michel (Vorm) yn chwarae’n dda ac mae Jose (Moreira) yn awchu i gael chwarae hefyd,” meddai Tremmel.

“Ond mae gen i lawer o brofiad o chwarae yn y Bundesliga, ac fe all hynny fod yn help mawr i ni y tymor yma.”

Yr Elyrch ‘ar frys’ i atgyfnerthu’r amddiffyn

Mae rheolwr yr Elyrch hefyd wedi datgelu fod y clwb yn awyddus i gipio’r amddiffynnwr 24 oed, Matthew Bates, sy’n gapten ar Middlesborough.

Cyfaddefa hyfforddwr Abertawe, Alan Curtis, fod rhywfaint o “frys” i gryfhau amddiffyn newydd ddyfodiaid yr Uwch gynghrair, “yn enwedig wedi anaf gwael Alan Tate”.

Fe all Tate fethu chwe mis o’r tymor ar ôl torri ei goes chwith mewn damwain cerbyd golff ar ddydd Sul.

“Roedd o mor bwysig i ni oherwydd mae’n gallu chwarae mewn unrhyw safle ar draws y llinell gefn,” meddai Curtis.

Fe fydd rhaid i’r Elyrch weithredu’n gyflym os ydynt am arwyddo Bates, sydd wedi chwarae i dîm ifanc Lloegr, cyn i’r cyfnod trosglwyddiadau’n dod i ben am 11pm heno.

Dywed Curtis, “Roedd Brendan Rodgers a minnau wedi bod yn trafod y posibilrwydd o ddod ag un os nad dau o amddiffynnwr newydd i mewn i’r clwb cyn diwedd y ffenestr.”