Y Tri Tenor
Mae albwm Tri Tenor Cymru wedi cyrraedd rhif 29 yn y siart Clasurol Prydeinig – y tro cyntaf i label recordio Sain gyrraedd y 30 uchaf erioed.
“Mae wedi bod yn sioc fawr i’r tri ohonom ni,” meddai Aled Hall, un o’r cantorion wrth Golwg360.
“Hyd yn hyn, dim ond yng Nghymru mae’r albwm ar gael. Dydyn ni heb ddechrau ei wthio fe yn Lloegr o gwbl eto.
“Mae’r cyfan nawr yn seiliedig ar werthiant yng Nghymru a dim ond ers mis mae’r albwm wedi bod mas,” meddai.
“Fe ges i sioc enfawr ddoe ar ôl cael e-bost gan Sain yn dweud bod Classic FM wedi cysylltu yn gofyn am gopi o’r albwm i’w chwarae ar eu siartiau dros y penwythnos.
“Roedden nhw wedi dweud wrth Sain ein bod ni yn y 40 uchaf. Ond, wedyn fe aeth Sain ar wefan y siartiau ei hunain a gweld ein bod ni yn y 30 uchaf! R’yn i ni gyd ffili credu’r peth.”
Dywedodd llefarydd ar ran Sain fod y newyddion yn golygu eu bod nhw ymysg enwau mawr y byd recordio clasurol.
“Rydan ni fyny yno gyda Universal, Warner a’r enwau mawr i gyd. Mae’n newyddion da i Sain ac i’r Tri Tenor,” meddai.
“Maen nhw wedi gweithio’n galed a’u proffil nhw wedi codi hefyd. Gobeithio y bydd yr albwm yn mynd i rif un rŵan!”
Targedu Llundain
“Rydyn n’n mynd i hyrwyddo’r albwm yn Llundain fis nesaf, ac fe fydd yn hwb mawr,” meddai Aled Hall.
“Mae gan gwmnioedd Warner Brothers ymgyrchoedd marchnata mawr i hyrwyddo eu halbymau. Rydyn ni wedi cyrraedd rhif 29 ar ein liwt ein hunain.
“Unwaith ydyn ni’n dechrau gwneud enw i’n hunain, fe fyddwn ni’n ceisio mynd ar Day Break, Lorraine, Loose Women – pethe fel hyn.
“Mae’n grêt gallu denu sylw o Brydain i Gymru. Roedden ni wedi recordio’r albwm yn y Back of Beyond mewn ffordd, y tu fas i Gaernarfon.
“R’yn ni wedi gweithio’n galed ac mae Sain wedi gweithio’n galed. R’yn ni wedi cael pob cefnogaeth ganddyn nhw. Roedd yr Eisteddfod yn wych i ni hefyd.”
Dywedodd eu bod yn mynd i fod yn trefnu rhagor o gyngherddau yng Nghymru gan weithio’u ffordd i lawr i lawr i Gaerdydd.