Mae pensiynwraig o Ynys Môn wedi dweud wrth Golwg360 fod cael cymryd rhan mewn cyfres gomedi newydd ar S4C yn “freuddwyd” wedi’i wireddu.
“Rydw i wrth fy modd yn cael actio. Mi faswn i’n gwneud pob dydd pe bawn i’n cael,” meddai Rose Roberts o Frynsiencyn wrth Golwg360.
Mae Rose Roberts yn 85 oed a’i hymddangosiad ar raglen gomedi newydd y sianel, Dim Byd, fis nesaf fydd y tro cyntaf iddi gael y cyfle i actio ar y teledu.
“Dw i wedi bod eisiau actio ers pan oeddwn i’n ifanc iawn. Dw i’n cadw reiat efo pawb ar dripiau i ffwrdd am wythnos. Dw i’n gwneud iddyn nhw chwerthin ar y bws, dw i’n joli ofnadwy,” meddai.
“Ro’n i wrth fy modd pan ofynnodd y cynhyrchwyr i mi gymryd rhan,” meddai.“Roedd cael fy ffilmio yn fendigedig. Fydda i’n 86 ym mis Medi.
“Ro’ ni angen darllen yr un peth drosodd a throsodd i gael o’n iawn. Ond, dydi ddim ots gen i. Ro’ ni rhy falch i gael y cyfle i’w wneud o,” meddai.
‘Chwerthin’
Dywedodd bod gwneud i bobl chwerthin yn “dod yn hawdd iddi” ac yn naturiol.
“Ma’ na hogyn bach ym Mrynsiencyn ‘ma, mae’n sbïo arna i ac yn chwerthin am ei fod yn gwybod mod i am ddweud rhywbeth gwirion,” meddai.
Fe gafodd Rose Roberts ei darganfod wrth ffilmio rhaglen arall yn son am ei phrofiadau yn yr ail ryfel byd. Mae ganddi bedwar o wyrion a dau or-ŵyr.
“Mi wnâi actio tra ‘dw i fyw, am hir gobeithio – tra bydd y pen yn dal i fynd,” meddai cyn dweud ei bod yn mwynhau gwylio S4C.
Dim Byd
Bydd y sioe gomedi Dim Byd yn dechrau ar S4C ar 7 Medi.
“Wrth wylio, byddwch yn cael yr argraff bod rhywun arall yn rheoli’ch set deledu, yn chwilio’r bar gwybodaeth ar waelod y sgrin gan neidio o un spŵff o raglen i un arall,” meddai S4C mewn datganiad.
“Bydd yr hiwmor slapstic, swreal sydd yn Dim Byd yn apelio at bobl ifanc o bob oed, a bydd y fformat yn siŵr o fodloni’r rhai aflonydd hynny sy’n arfer ‘syrffio’ sianeli teledu gan wylio sawl rhaglen ar yr un tro.”
Bydd Rose Edwards, 85 o Frynsiencyn, Ynys Môn yn serennu mewn eitemau o’r rhaglen ddychmygol ‘Hanes dy Nain’.
Yng nghanol sôn am galedi’r dyddiau a fu, mae hi’n mynd ati i hel atgofion am Facebook, chwarae ar yr X Box a bitbocsio.
Mae’r gyfres wedi’i sgriptio ar y cyd gan Barry Jones, neu ‘Archie’, sy’n fwy adnabyddus fel dyn sain a gitarydd i’r grŵp Celt. Mae’n cyfaddef mai Rose – ‘Nain’ – yw ei hoff gymeriad, ac iddo ddod ar ei thraws wrth weithio fel gŵr sain ar raglen hanes.
“Roedd hi’n cael ei chyfweld am ei hatgofion o’r Ail Ryfel Byd, a wnes i sylwi’r adeg honno bod ganddi sbarc yn ei llygaid. Felly roedd hi’n berffaith ar gyfer y rhan,” eglura.
“Mae ’na ryw ofnus barch at yr henoed – mae’n hawdd coelio popeth maen nhw’n ei ddeud, felly mae clywed hen wreigan yn sôn am bethau fel Skype a thecstio mor annisgwyl.”
Dywedodd bod Rose Roberts yn “brawf fod ’na actorion gwych allan yna sydd ddim hyd yn oed yn ymwybodol o’u dawn tan iddyn nhw gael y cyfle.”