Yr heddlu'n ymchwilio wedi'r digwyddiad yn y salon trin gwallt yng Nghasnewydd brynhawn Gwener (Gwifren PA)
Roedd y dyn a gerddodd i salon trin gwallt yng Nghasnewydd a saethu ei gyn-wraig wedi cael ei garcharu yn 2004 am fod ag arfau yn ei feddiant.
Roedd Darren Williams o Gwmbrân wedi dianc ar ôl y saethu a chafwyd hyd iddo gan yr heddlu bum awr yn ddiweddarach mewn coedwig.
Yn ôl adroddiadau papur newydd, roedd y dyn 45 oed wedi cael ei garcharu am bedwar mis yn 2004 ar ôl i’r heddlu gael hyd i domen o arfau yn ei feddiant, gan gynnwys pistol .22, twca, cyllell hela, canisterau o nwy CS a bwledi.
Fe ddaeth i’r amlwg hefyd fod ganddo ddedfrydau blaenorol yn ei erbyn o fod ag arf gwaharddedig yn ei feddiant ac am brynu arf tân heb dystysgrif.
Roedd wedi defnyddio gwn dwbl baril i ymosod ar ei gyn-wraig yn y salon yng Nghasnewydd brynhawn Gwener.
Er ei fod yn adnabyddus i’r heddlu’n lleol, doedd ganddo ddim trwydded ar gyfer arf o’r fath. Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw’n ymchwilio i sut cafodd afael ar y dryll.
Yn ôl ei deulu, fe ddylai fod wedi cael cymorth meddygol.
“Mae Darren wedi diodde’ yn ystod yr ychydig wythnosau diwetha’ oherwydd chwalfa trawmatig ei briodas ac roedd arno angen dybryd am sylw meddygol proffesiynol,” meddai ei deulu mewn datganiad i’r wasg a’r cyfryngau.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall ynglŷn â’r digwyddiad.