Symud ymlaen tuag at y brifddinas - gwrthryfelwyr ym mhentref Mayah, tua 20 milltir i’r gorllewin o Tripoli heddiw (AP Photo/Sergey Ponomarev)
Mae gwrthryfelwyr Libya wedi cipio canolfan filwrol bwysig sy’n amddiffyn Tripoli, prifddinas y wlad, a chadarnle Muammar Gaddafi.

Gyda gwrthdaro ac ymladd cynyddolo ar strydoedd Tripoli, mae’n ymddangos bod y rhod yn troi yn erbyn yr arweinydd.

Y ganolfan filwrol a syrthiodd i’r gwrthryfelwyr ar ôl brwydr fer heddiw oedd un o’r symbolau pwysicaf o rym cyfundrefn Gaddafi. Hon oedd canolfan y frigâd sy’n cael ei harwain gan Khamis, mab Gaddafi, un o unedau mwyaf pwerus byddin y wlad.

O fewn y ganolfan, roedd cannoedd o wrthryfelwyr yn bloeddio’n wyllt ac yn dawnsio, gan godi baner y gwrthryfelwyr arni. Fe wnaethon nhw gipio storfeydd mawr o arfau gan eu cludo oddiyno mewn tryciau.

“Dyma gyfoeth pobl Libya yr oedd Gaddafi yn ei ddefnyddio yn ein herbyn,” meddai Ahmed al-Ajdal, 27, un o’r gwrthryfelwyr. “Fe fyddwn ni’n awr yn ei ddefnyddio yn ei erbyn ac yn erbyn unrhyw unben arall sy’n mynd yn erbyn pobl Libya.”

Yn Tripoli ei hun, cafwyd ail ddiwrnod o wrthdaro parhaus rhwng ‘celloedd cwsg’ o wrthryfelwyr sy’n codi yn erbyn teyrngarwyr Gaddafi. Roedd hefyd brotestiadau mawr yn erbyn y llywodraeth.

Fe ddywedodd gwrthryfelwyr ddoe iddyn nhw lawnsio eu hymosodiad cyntaf yn Tripoli mewn cydweithrediad â Nato, ac fe fu bomio trymach nag arfer wedi iddi nosi, gyda ffrwydradau uchel i’w clywed trwy’r ddinas.

Taro’n ôl

Er i dref ar ôl tref syrthio i’r gwrthryfelwyr ar eu ffordd i Tripoli, mae lluoedd Gaddafi wedi taro’n ôl yn galed gyda rocedi, ffrwydron ac arfau gwrth-awyrennau.

 “Dydyn ni ddim yn mynd yn ôl. Os bydd Duw gyda ni fe fyddwn ni’n mynd i mewn i Tripoli heno,” meddai Issam Wallani, un o’r gwrthryfelwyr.

Ond meddai llefarydd ar ran llywodraeth Libya, Moussa Ibrahim, mewn cynhadledd i’r wasg yn Tripoli: “Mae miloedd ar filoedd o filwyr sy’n fodlon amddiffyn y ddinas.”

Cyhuddodd y gwrthryfelwyr o gyflawni erchylleterau mewn ardaloedd o dan eu rheolaeth ac apeliodd am gadoediad gan rybuddio o ‘drychinebau’ os bydd cyfundrefn Gaddafi’n syrthio.

Dywedodd Nato fod y newid cyflym yn y sefyllfa a’r ffordd yr oedd yr ymladd yn canolbwyntio mewn trefi a phentrefi’n ei gwneud hi’n fwy anodd i nodi targedau ar gyfer ymosodiadau o’r awyr.

“Mae’n llawer caletach gwneud hyn mewn ardal drefnol meddai. “Mae’n gofyn am wybodaeth fanwl iawn i’w gyflawni heb beryglu bywydau pobl gyffredin.”