Paul Davies
Mae Dirprwy Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am adolygiad o ddioglewch ar ôl i amlen yn cynnwys anfonebau’r Llywodraeth gael ei darganfod mewn gwrych yn Sir Benfro.
Daeth y dogfennau i law Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro. Arnyn nhw roedd cynnwys manylion biliau ar gyfer miloedd o bunnau a manylion banc Heddlu Dyfed Powys.
Dynes leol gafodd hyd i’r amlen mewn gwrych ger ei chartref ym mhentref Eglwyswrw.
Roedd y dogfennau wedi dod o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Merthyr, ac wedi ei gyfeirio at swyddfeydd tebyg yn Llandudno.
Ers dychwelyd y cynnwys, mae Paul Davies wedi sgwennu at Brif Weinidog Cymru yn galw am adolygiad o drefn diogelu eiddo Llywodraeth Cymru.
“Mae’n amlwg fod hyn yn ffars o ran diogelwch ac yn mynnu adolygiad o’r drefn,” meddai Paul Davies.