Mae Prif Ohebydd y Western Mail yn credu bod gwir beryg y gallai’r papur newydd ddiflannu mewn cyn lleied â dwy flynedd os nad yw ei sefyllfa ariannol yn gwella.

Wrth gael ei holi am ddyfodol y papur, dywedodd Martin Shipton fod “unrhyw beth – a phopeth – yn bosib os nad yw’r economi yn gwella”.

Mae’r Western Mail yn dod dan adain cwmni Media Wales, sy’n gangen o gwmni Prydeinig cwmni Trinity Mirror – sy’n berchen ar dros 160 o bapurau newydd rhanbarthol yn ogystal â’r Daily Mirror.

Dros y blynyddoedd diwetha’ mae elw’r cwmni wedi syrthio, wrth i’r dirwasgiad arwain at gwymp mewn arian ar gyfer hysbysebu yn y sector gyhoeddus a phreifat.

“Does neb sy’n gweithio i’r cwmni yma yn gallu dweud bod eu swyddi yn ddiogel,” meddai Martin Shipton, sydd hefyd yn cynrychioli Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr o fewn y cwmni.

Daw’r sylwadau yn dilyn cyhoeddiad gan Media Wales y bydd 22 o swyddi yn mynd.

Bydd y toriadau mewn tair adran – pedwar swydd o’r adran chwaraeon, 10 o blith y saith papur newydd lleol sydd gan y cwmni yn ne Cymru, ac wyth o’r adran gynhyrchu.

Mae’r toriadau wedi rhoi swyddi 26 o ddirprwy-olygyddion yn y fantol, ac mae gofyn iddyn nhw i gyd ymgeisio am 20 o swyddi newydd – 10 yn llawn amser, a 10 yn rhan amser.

Cafodd y rhai sydd wedi sicrhau swyddi llawn amser wybod hynny ddydd Mawrth diwethaf, a bydd y gweddill yn cael clywed dros yr wythnos nesaf.

Mae’n debyg mai amcan y cwmni yw dod â’r ad-drefnu i ben erbyn 2 Medi, a bod y system newydd ar waith erbyn yr wythnos ganlynol.

Doedd cwmni Trinity Mirror ddim am wneud sylw ar y mater.

NUJ yn gorfod ildio

Dywedodd Martin Shipton fod Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr – yr NUJ – wedi bod yn trafod â’r cwmni ynglŷn â sut i osgoi’r holl doriadau.

Ond yn ôl Prif Ohebydd y Western Mail, roedd y rhan fwyaf o’r toriadau bellach yn anochel.

“Doedd gweithredu diwydiannol ddim yn opsiwn,” meddai.

“Rydym ni wedi gwneud ein gorau i leddfu ar effaith y toriadau,” ychwanegodd, gan ddweud eu bod nhw wedi medru trefnu bod rhai gweithwyr yn cael gadael eu swyddi yn wirfoddol.

“Ond y pen draw yw nad yw’r arian yno i dalu cymaint o bobol bellach.”

Beirniadu newyddion ar-lein

Er bod yr economi yn rannol gyfrifol am sefyllfa bresennol Media Wales, mae Martin Shipton hefyd yn beio’r penderfyniad i ddarparu gwasanaeth ar-lein ar y cwymp mewn elw.

“Roedd cynnig gwasanaeth newyddion ar-lein am ddim i’r cyhoedd yn gamgymeriad difrifol,” meddai.

Dywedodd hefyd fod Trinity Mirror mewn dyled a bod hynny “yn golygu bod rhaid i gyfran o elw’r cwmni gael ei dalu i’r banc”.

Roedd hefyd yn beirniadu lefel y cyflog i benaethiaid o fewn Trinity Mirror – ac yn arbennig cyflog bras y Prif Weithredwr, Sly Bailey, wnaeth dderbyn pecyn gwerth £1.7 miliwn y llynedd, meddai’r NUJ.

Mae’r Undeb wedi mynegi eu gwrthwynebiad chwyrn i’w chyflog, sydd yn “gwobrwyo methiant” meddai.

Canlyniadau siomedig

Y bore yma fe gyhoeddodd Trinity Mirror bod eu helw wedi disgyn 17% yn hanner cyntaf y flwyddyn, wrth i’r arian o werthiant papurau’r cwmni ddisgyn 5%, ac wrth i hysbysebu gan y sector gyhoeddus ddisgyn 24%.

Ond mae’r cwmni drwyddi draw yn dweud bod gwerthiant mis Gorffennaf wedi gwella rhywfaint, wrth i’w papurau dydd Sul, sy’n cynnwys y Sunday Mirror, elwa o ddiflaniad y News of the World.

Ers cyhoeddi’r canlyniadau, mae Trinity Mirror wedi cynyddu eu targedau ar gyfer arbed arian, a’i godi o £15miliwn i £25 miliwn – ond maen nhw’n mynnu na fydd hyn yn achosi rhagor o doriadau mawr mewn swyddi.

Gohebydd: Catrin Haf Jones