Mae cannoedd o becynnau clirio baw ci wedi eu dosbarthu yn rhad ac am ddim yn y gogledd, am ei bod yn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Baw Ci.
Bwriad y fenter yw rhoi stop ar berchnogion cŵn anghyfrifol sy’n gadael i’w hanifeiliaid faeddu mewn mannau cyhoeddus.
Mae’r heddlu a’r cynghorau sir wedi dod ynghyd gyda’r Ymddiriedolaeth Cŵn i ddatrys y broblem.
“Mae’r Ymddiriedolaeth yn benderfynol o fynd i’r afael â phroblem baw ci yng Ngogledd Cymru ac rydw i’n mawr obeithio y bydd yr wythnos ymgyrch yn tanlinellu pwysigrwydd clirio ar ôl eich ci,” meddai Clarissa Baldwin o’r Ymddiriedolaeth.
“Roedd yn galonogol gweld fod cynifer o bobl eisoes yn mynd a bagiau pwrpasol efo nhw wrth fynd a’r ci am dro. Dim ond lleiafrif anghyfrifol sy’n rhoi enw drwg i gŵn.”
Problem afiach
Ond er mai dim ond lleiafrif anghyfrifol sydd wrthi, yn ôl Clarissa Baldwin, mae cynghorau sir yn derbyn llawer iawn o gwynion, meddai Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Môn.
“Mae gadael baw ci ar y stryd yn afiach ac yn achosi nifer fawr o gwynion i gynghorau lleol bob blwyddyn,” meddai Tony Burgess.
“Mae baw ci yn cario haint all gael effaith ddifrifol ar bobl, gall gario wyau parasit all achosi i blant fynd yn ddall.”