iSteddfod
Mae un o grewyr ‘app’ iSteddfod wedi dweud fod ansicrwydd a fydd ar gael y flwyddyn nesaf.

Mae’r app ar gyfer yr iPhone sy’n tywys defnyddwyr o amgylch maes yr Eisteddfod wedi bod ar gael i’w lawr lwytho yn Eisteddfodau Cenedlaethol Wrecsam eleni a Glyn Ebwy’r llynedd.

Ond dywedodd Ambrose Choy wrth Golwg 360 fod dyfodol yr app yn dibynnu ar ydi’r Eisteddfod ac eraill yn fodlon buddsoddi i’w gadw.

“Rydyn ni wedi gweithio arno am ddwy flynedd yn olynol, heb unrhyw fwriad gwneud arian,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn siŵr a allen ni fforddio ei wneud eto’r flwyddyn nesaf.

Mae’r cyfan yn dibynnu a yw’r Eisteddfod yn gallu ei ariannu’r flwyddyn nesaf neu os ydi rhywun arall yn gallu ariannu’r peth.”

Os ydyn nhw’n gallu datblygu’r app y flwyddyn nesaf y gobaith yw galluogi pobol sy’n defnyddio ffonau Android a Blackberry i wneud hynny.

“Ond rydyn ni angen buddsoddiad gan yr Eisteddfod, neu’r Llywodraeth neu rywun,” meddai.

Dywedodd y byddai trafodaethau rhyngddynt a’r Eisteddfod Genedlaethol tua mis Medi eleni am drefniadau’r ŵyl y flwyddyn nesaf.

Roedd tua’r un faint o bobl wedi defnyddio’r rhaglen a’r flwyddyn ddiwethaf, sef tua 1,000, ond nad oedd wedi derbyn yr ystadegau i gyd eto.

‘Cyrraedd mwy o bobl’

“Does dim pwynt gwneud yr un peth eto’r flwyddyn nesaf – mae angen cyrraedd rhagor o bobol,” meddai.

“Rydyn ni eisiau creu rhywbeth gwell na sydd gyda ni nawr. Rydan ni’n gobeithio y bydd arian i’n galluogi i gyrraedd platfformau eraill.

“Yn anffodus, arian yw’r cwestiwn mawr ar hyn o bryd. Hyd yn oed os na nawn ni elw, gobeithio y byddai buddsoddiad yn gallu talu am yr arian y mae’n cymryd i wneud y gwaith.”

Dywedodd eu bod nhw wedi gwrando ar beth y mae pobol eisiau ei weld ar yr app ac yn gobeithio ychwanegu rhai pethau’r flwyddyn nesaf, gan gynnwys canlyniadau o’r llwyfan.