Mae Prifysgol Cymru wedi cadarnhau wrth Golwg 360 fod aelod o staff wedi ei atal o’i waith ar ôl i adroddiad cyfrinachol, sy’n beirniadu S4C, gael ei ollwng i ddwylo’r wasg.
Mae’r aelod o staff wedi ei atal tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal gan Brifysgol Cymru, i ddarganfod sut yr aeth yr adroddiad i ddwylo’r wasg.
“Mae Prifysgol Cymru wedi comisiynu ymchwiliad mewnol i’r mater hwn, ac mae aelod o staff wedi ei atal rhag gweithio hyd nes ceir canlyniad yr ymchwiliad,” meddai llefarydd ar eu rhan.
Cafodd Prifysgol Cymru ei chomisiynu gan S4C i gynnal yr ymchwiliad i’r sianel. Cafodd gweithwyr a chyfranogwyr S4C eu cyfweld gan Richie Turner, dirprwy gyfarwyddwr Academi Ryngwladol Prifysgol Cymru rhwng mis Mawrth ac Ebrill.
Mae gan Academi Fyd-eang Prifysgol Cymru dair swyddfa ar draws Cymru, gan gynnwys un yn y Galeri yng Nghaernarfon.
Yr adroddiad
Yn ôl canfyddiadau’r adroddiad, dydi’r sianel ddim bellach yn deall beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg, ac mae angen newid sawl peth o fewn y sianel os yw am oroesi yn y dyfodol.
“O’r tu allan mae diwylliant S4C yn cael ei ddisgrifio fel un gor-gyfrinachol, naïf yn wleidyddol, trahaus y tu hwnt i’w rôl, yn esiampl ddrwg o sut i ymddwyn fel darlledwr cyhoeddus, heb ddeall mewn gwirionedd beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg …” meddai’r adroddiad.
Ychwanegodd yr adroddiad fod y sianel yn cael ei gweld fel un sy’n diffygio mewn creadigrwydd “ac yn amharod i newid.”
Yn anffodus doedd barn pobol oedd yn gweithio i S4C “ddim llawer gwell,” meddai’r adroddiad.
“Mae moral yn isel a dyw ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol ddim yn helpu yn hynny o beth,” meddai.
“Mae yna ddiffyg hyder gan nifer o’r staff i fynd i’r afael â’r problemau y mae’r S4C yn eu hwynebu. Mae’r diwylliant yn un o ofn, cyfrinachedd, diffyg ffydd a gormod o reolaeth.”