Swyddfa S4C
Mae adroddiad wedi beirniadu S4C gan ddweud fod canfyddiad nad yw’r sianel bellach yn deall beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r adroddiad gan Brifysgol Cymru, a gafodd ei gomisiynu gan S4C, wedi mynd i ddwylo’r wasg.
Cafodd gweithwyr a chyfranogwyr S4C eu cyfweld gan Richie Turner, dirprwy gyfarwyddwr Academi Ryngwladol Prifysgol Cymru rhwng mis Mawrth ac Ebrill.
Yn ôl yr adroddiad, a gafodd ei ollwng i ddwylo papur newydd y Western Mail, mae angen newid sawl peth o fewn y sianel os yw am oroesi yn y dyfodol.
“O’r tu allan mae diwylliant S4C yn cael ei ddisgrifio fel un gor-gyfrinachol, naïf yn wleidyddol, trahaus y tu hwnt i’w rôl, yn esiampl ddrwg o sut i ymddwyn fel darlledwr cyhoeddus, heb ddeall mewn gwirionedd beth yw cymdeithas sy’n siarad Cymraeg …”
Ychwanegodd yr adroddiad fod y sianel yn cael ei gweld fel un “sydd heb fod yn greadigol ac sy’n amharod i newid”.
Barn y gweithwyr
Yn anffodus doedd barn pobol oedd yn gweithio i S4C “ddim llawer gwell,” meddai’r adroddiad.
“Mae moral yn isel a dyw ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol ddim yn helpu yn hynny o beth,” meddai.
“Mae yna ddiffyg hyder gan nifer o’r staff i fynd i’r afael â’r problemau y mae’r S4C yn eu hwynebu. Mae’r diwylliant yn un o ofn, cyfrinachedd, diffyg ffydd a gormod o reolaeth.”
Mae sawl dyfyniad yn yr adroddiad gan aelodau o’r staff sy’n teimlo nad ydyn nhw’n gallu cynnig syniadau newydd.
“Does dim pwynt awgrymu syniadau newydd am nad yw unrhyw un yn gwrando arnyn nhw a does dim ateb i’n cwestiynau ni os ydyn ni’n eu gofyn nhw,” meddai un.
Mae’r adroddiad yn annog rhagor o gyfarfodydd ar gyfer y gweithwyr i gyd, a meithrin diwylliant creadigol o fewn y swyddfa.
Mae hefyd yn dweud bod rhai o weithwyr S4C wedi bod yn eu swyddi yn rhy hir, a bod “gwaed newydd” yn hanfodol i’r sianel.
Ymateb
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran S4C bod awdurdod y sianel eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â rhai o’r problemau y mae Richie Turner yn eu nodi.
“Mae’r adroddiad yn ei gwneud hi’n glir nad ydi gwelliannau neu newidiadau diweddar wedi eu hadlewyrchu yn y canfyddiadau,” meddai S4C.
“Drwy gydol y broses mae Mr Turner wedi bod yn trafod ei ganfyddiadau â’r awdurdodau a rheolwyr uwch ac mae nifer o’i argymhellion eisoes wedi eu trafod a’u rhoi ar waith.”
Ymateb gwleidyddol
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Peter Black ei bod yn “galonogol fod S4C eu hunain wedi comisiynu’r adroddiad yma ac yn barod i dderbyn ei awgrymiadau”.
“Mae darlledu yng Nghymru yn dechrau ar gyfnod anodd a budd angen i bob un o’r darlledwyr deall beth mae eu cynulleidfaoedd ei eisiau os ydyn nhw am oroesi.
“Mae angen i gyrff gan gynnwys S4C gael cefnogaeth lawn eu gweithwyr a’u contractwyr er mwyn diwygio’u hunain ar gyfer y realiti economaidd newydd.
“Mae’r adroddiad yma yn awgrymu fod yna ffordd bell i fynd eto ond maen nhw wedi dechrau ar y gwaith ac rydw i’n croesawu hynny.”