Cafodd mwy na 9,300 o bobol yng Nghymru eu dal yn gwylio teledu heb drwydded yn ystod chwe mis cyntaf 2011.
Cafodd 1,000 o bobol eu dal yng Nghaerdydd, 840 yn Abertawe, 750 yng Nghasnewydd, 300 yn Sir Gar a 200 yn Sir Benfro.
Yn ôl TV Licensing, y corff sy’n gwneud yn siŵr fod pawb sy’n berchen ar deledu yn talu’r drwydded, cafodd 197,000 o bobol eu dal ym Mhrydain yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn eleni.
Serch hynny maen nhw’n amcangyfrif fod 95% yn talu am eu trwyddedau teledu.
“Er mwyn bod yn deg â’r rheini sy’n talu eu trwyddedau teledu, rhaid bod yn llym â’r rheini sydd ddim yn gwneud,” meddai Warren Carr, llefarydd ar ran TV Licensing.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal ymgyrch ar hyn o bryd i annog pobol i beidio â thalu eu trwyddedau teledu er mwyn protestio yn erbyn y toriadau i gyllideb S4C.
Mae’r AC Leanne Wood, Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Gai Toms, a llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ymysg y rheini sydd wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu talu eu trwydded teledu mwyach.