Brigyn - mewn coeden
Mae un o sêr yr grwp gwerin modern Brigyn wedi agor llwybr newydd ar draws Cymru sy’n tynnu sylw at rai o goed mwyaf hynafol a chwedlonol y wlad.
Ymysg y coed ar lwybr y Coed Yw Mawreddog Cymru mae ywen llangernyw, sy’n hŷn na phyramidiau’r Aifft, ac ywen arall sy’n diferu gwaed!
Cafodd y llwybr ei gyhoeddi gan Goed Cadw, yn rhan o’u prosiect, yr Helfa Coed Hynafol.
“Mae coed, tirwedd a natur wyllt Cymru wedi cael dylanwad mawr ar ein cerddoriaeth. Rydym wedi cael ein magu ym mhrydferthwch Eryri ac wedi teithio i bob rhan o Gymru, ers ffurfio’r band Brigyn,” meddai Ynyr Roberts.
“Rydym o hyd yn rhyfeddu at natur hynafol rydym yn ei weld wrth deithio’r wlad ac yn llawn edmygu’r harddwch natur sydd wedi goroesi dros ganrifoedd.
“Pan oeddem yn lansio ein hail CD – sef yr albwm Brigyn2, roeddem am gyfuno perfformiad byw gyda chanu mewn lleoliad o bwys. Ac fe ddaru ni wneud hyn drwy ganu mewn coeden! Ie, mi ddaru ni berfformio caneuon tra’n sefyll y tu mewn i goeden hynafol enfawr ger Rhandirmwyn. Roedd o’n ddigwyddiad arbennig iawn, a braf oedd cael canu mewn amgylchedd wahanol a chofiadwy.”
Coed chwedlonol
Mae’r coed sy’n cael eu cynnwys i’w gweld yng Ngogledd Cymru, de, dwyrain a gorllewin. Dyma flas o hanes rai ohonynt:
Credir gan lawer mai Ywen Llangernyw, yn Llangernyw ger Llanrwst, ydy’r ywen hynaf yng Nghymru. Tybir gan rai ei bod hyd at 4,000 o flynyddoedd oed. Fe allwn ni fod yn sicr ei bod hi’n hyn na’r eglwys y mae’n sefyll wrth ei hochr. Mae’r goeden i’w chael ar dir Eglwys Sant Digain ym mhentref swynol Llangernyw.
Credir fod Ywen Dafydd Ap Gwilym yn Ystrad Fflur yn marcio bedd y bardd hwn, y mwyaf o bosibl o feirdd yr oesoedd canol.
Mae ywen Waedlyd Nyfer, er yn ddinod o ran ei hoed, yn nodedig am yr olygfa o hylif tebyg i waed sy’n diferu o archoll ar y goeden. Mae amryw o chwedlau’n gysylltiedig â’r gwaedu, sy’n denu pererinion Cristnogol a Phaganaidd fel ei gilydd.
Credir fod Ywen Betws Newydd ger Rhaglan o leiaf 2,000 o flynyddoedd oed. Mae ganddo foncyff allanol sydd wedi’i dreulio’n rhyfeddol. Dengys darluniadau artistig o’r 1890au mai ychydig iawn y mae’r goeden wedi newid dros y 120 mlynedd ddiwethaf.
‘Gwarchod ein hanes’
Fe gafodd taflen llwybr Cced Yw Mawreddog Cymru ei greu a’i ysgrifennu gan Edward Parker, sydd yn ffotograffydd ac yn awdur adnabyddus.
“Gellir cychwyn ar y llwybr yn unrhyw fan ac nid oes rhaid ei ddilyn yn y drefn yma. Bydd y rheini sy’n dilyn y llwybr yn gweld llawer o goed hynafol godidog a rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Cymru ar hyd y ffordd,” meddai Edward Parker.
“Gallech ddweud ei fod yn cynnig taith drwy amser – gellwch sefyll wrth ochr coed a oedd o bosibl yn eu llawn dwf yn yr Oes Efydd ac eraill sy’n bendant yn gynharach na Christnogaeth – yn ogystal â phrofiad diwylliannol cyfoethog. Mwynhewch!”