Rhodri Talfan Davies
Mae’r BBC wedi penodi Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr newydd BBC Cymru.
Daw’r penodiad ar ôl ymadawiad Menna Richards ym mis Chwefror 2011.
Mae’n fab i gyn-reolwr BBC Cymru, Geraint Talfan Davies.
Bydd Rhodri Talfan Davies, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Strategaeth a Chyfathrebu BBC Cymru, yn dechrau ar ei swydd newydd ym mis Medi.
“Rwyf wrth fy modd ac yn ei hystyried yn fraint i gael fy newis ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr,” meddai Rhodri Talfan Davies.
“Mae BBC Cymru Wales yn bwysig eithriadol i fywyd creadigol a diwylliannol y wlad ac mae’n perfformio’n wych ar rwydweithiau’r DU hefyd. Mae yma wledd o dalent yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac mae’n fraint cael y cyfle i arwain y tîm gwych yn BBC Cymru.”
Dywedodd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC fod Rhodri Talfan Davies yn dod “â phrofiad helaeth o feysydd newyddiaduraeth, radio a datblygu gwasanaethau digidol newydd”.
“Mi fydd ei ddealltwriaeth helaeth o Gymru – a rôl hollbwysig y BBC ym mywyd y wlad – yn gaffaeliad wrth iddo wynebu’r her o arwain rhan mor llwyddiannus ac uchelgeisiol o’r gorfforaeth,” meddai.
Ei gefndir
Cafodd Rhodri Talfan Davies ei eni yng Nghaerdydd. Dechreuodd ei yrfa gyda’r BBC yn gynhyrchydd newyddion teledu rhanbarthol a gohebydd yn Newcastle, Manceinion a Llundain cyn cael ei benodi’n Bennaeth Rhaglenni Rhanbarthol a Lleol yn BBC Bryste yn 1999.
Yn 2001, penodwyd Rhodri yn Gyfarwyddwr Teledu cwmni Video Networks lle bu’n arwain datblygiad gwasanaeth ar-alw cynta’r DU, HomeChoice (talk talk TV bellach).
Yn 2004, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Marchnata Teledu yn ntl Telewest cyn iddo ailymuno â’r BBC yn 2006 yn Bennaeth Strategaeth a Chyfathrebu yng Nghymru. Yn ystod y chwe mis diwethaf bu’n arwain y gweithgor Digidol ar gyfer Delivering Quality First.