Ni fydd Gŵyl Gopr Amlwch ei chynnal eleni a hynny oherwydd “diffyg arian”, meddai’r pwyllgor.

Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf, ar benwythnos gŵyl y Banc Mehefin 2012, meddai un o’r trefnwyr wrth Golwg360.

Dywedodd y pwyllgor mewn datganiad eu bod nhw wedi gorfod atal yr ŵyl eleni am nad oes digon o adnoddau ar gael i’w chynnal.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw yn “gobeithio denu nawdd a grantiau’r flwyddyn nesaf er mwyn gallu cynnal gŵyl gwerth chweil i’r gymuned gyfan”.

‘Hinsawdd economaidd’

“Roedd sawl cwmni wedi addo cyllid i ni. Ond, oherwydd yr hinsawdd economaidd – doedd yna ddim llawer ophono yn y pen draw,” meddai un o’r trefnwyr, Karl Byast o Amlwch, wrth Golwg360.

“Rydan ni’n gobeithio gallu codi mey o arian ein hunain eleni hefyd,” meddai.

Roedd y trefnydd yn dweud bod costau diogelwch oddeutu £4,000 a bod sawl cost arall i’w ystyried fel toiledau, offer yr ŵyl a gwasanaethau eraill.

“Mae’r ŵyl wedi dod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf – dydy’ ni jest ddim eisiau bod mewn sefyllfa ble mae arnon ni arian i bobl eraill. Rydan ni wastad wedi talu’n ffordd,” meddai cyn dweud mai y flwyddyn yma fyddai’r “chweched ŵyl”.

‘Rhad ac am ddim’

“Mae’r ŵyl Gopr yn rhad ac am ddim i bobl. Digwyddiad teuluol ydi o – dydyn ni ddim eisiau codi ffi – dyna’r pwynt o’r dechrau un,” meddai Karl Byast.

“Tua thair blynedd yn ôl, roedden ni’n ymbil ar fandiau i chwarae. Ond, eleni, fe gawson ni tua 50 i 60 e-bost gan fandiau yn gofyn a fydden nhw’n cael chwarae am ddim. Mae’n bechod,” meddai.

Er gwaethaf y ffaith bod yr ŵyl eleni wedi’i gohirio mae “pob ymdrech yn cael ei roi i mewn gŵyl flwyddyn nesaf nawr” meddai.

“Dydy’ ni erioed wedi gwneud colled – ond heb wneud elw mawr chwaith. Mae wastad wedi bod yn dynn,” meddai.

Eisoes, roedd Ywain Myfyr, un o drefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi son am ei bryderon ac wedi dweud wrth Golwg360 8 Gorffennaf bod llai o gefnogaeth i gigs bach o amgylch y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydan ni’n prysur gyrraedd man lle mai dim ond mewn dau le fyddwn ni’n gallu cynnal gigs sy’n llwyddiant, yn yr Eisteddfod a’r Sioe {Amaethyddol yn Llanelwedd]” meddai.