Mae trefnydd Gŵyl Gardd Goll yn y Faenol wedi dweud wrth Golwg360 heddiw ei fod yn “hapus â’r ŵyl eleni” er bod “ychydig yn llai na’r llynedd” wedi cefnogi.

“Dw i’n meddwl bod y gynulleidfa wedi cael amser grêt,” meddai Dilwyn Llwyd, trefnydd y digwyddiad.

Fe gafodd yr ŵyl ei chynnal yn Ystâd y Faenol ger y Felinheli, ac roedd bandiau mawrion fel Badly Drawn Boy ac Echo and the Bunnymen ymysg y rhai oedd yn perfformio.

“Dw i’n hapus gyda’r ŵyl – roedd hi’n ŵyl anhygoel a’r cerddorion wedi mwynhau. Roedd y tywydd yn ffantastig ac mae llawer wedi canmol” meddai Dilwyn Llwyd.

Ond roedd yn cyfaddef fod “ychydig yn llai na’r llynedd” wedi dod i’r ŵyl eleni.

“Chawson ni ddim cweit y niferoedd roedden ni’n gobeithio amdanyn nhw eleni” meddai Dilwyn Llwyd cyn dweud nad oedd ffigyrau terfynol ganddo wrth law.

Dywedodd ei bod yn “rhy fuan ar hyn o bryd” i ddweud beth oedd ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol a bod “trefnu’r ŵyl wedi bod yn lot o waith”.

Mae Gŵyl Gard Goll wedi derbyn £60,000 dros gyfnod o dair blynedd gan Lywodraeth y Cynulliad.

‘Drud’

Dywedodd un o’r rheini fu’n arfer mynychu’r ŵyl ei bod hi’n teimlo fod y tocynnau yn costio gormod eleni.

“Fel arfer, mi fyddwn i a’r rhan fwyaf o fy ffrindiau wedi bod â diddordeb mewn mynd i’r ŵyl,” meddai Ceri Wyn Ellis o Gaernarfon.

“Roedd tocynnau nos Wener yn eitha’ rhesymol am £16 ond roedd tocyn nos Sadwrn [£31] yn rhy ddrud, ac felly fe wnaethon ni benderfynu peidio mynd.

“Tasa’r tywydd wedi bod yn well nos Wener, mi faswn i wedi mynd! Roedd y ‘line-up’ yn eithaf da oni’n teimlo – yn enwedig ar y nos Wener.

“Ond, mae’r ffaith bod yr ŵyl wedi cael ei symud o Lynllifon i’r Faenol wedi fy rhoi fi ‘off’ hefyd. Roedd well gen i deimlad cartrefol Glynllifon!

“Ro’n i hefyd wedi clywed nad oedd pobl yn cael mynd a’u halcohol eu hunain i mewn  – roedd hynny wedi cael effaith ar ein penderfyniad ni hefyd.”

‘Uchelgeisiol’

Dywedodd Gwion Llwyd o Garmel wrth Golwg 360 fod yr ŵyl yn un uchelgeisiol a’i fod wedi mwynhau yno dros y penwythnos.

Roedd yn deall mai tua 600 gu’n gwylio Gruff Rhys yn yr ŵyl nos Wener, ac mai tua hanner hynny oedd yno ddydd Sadwrn.

“Mae hi’n wych bod rhywun fel Dilwyn yn bod yn uchelgeisiol,” meddai. “Mi roddodd ŵyl ffantastig at ei gilydd, heb unrhyw help bron a bod.

“Does yna ddim dadlau am hynny. Roedd safon y sain yn anhygoel, a dyw hynny ddim fel arfer yn cael ei ddweud am wyliau.

“Ond efallai trwy fod yn uchelgeisiol roedd wedi anelu at y miloedd, yn hytrach na’r cannoedd. Am nad oedd y miloedd yno, roedd yn edrych yn wag.

“Roedd gweld Echo and the Bunnymen mewn gŵyl fach fel hyn yn wefreiddiol. Ro’n i o fewn hanner canllath i bobl sy’n arwyr i mi. Roedd holl vibe y diwrnod yn rhagorol – a phopeth yn dod lawr i ba mor lwcus oedden ni o ran y tywydd.

“Tase hi wedi bod yn ddiwrnod glawog fe fyddai wedi bod yn ddigalon iawn,” meddai Gwion Llwyd cyn disgrifio’r ŵyl fel un “fach deuluol”,

“Efallai ei bod hi’n biti nad oedd mwy o stondinau, a phethau amgen. Dim ond dwy lwyfan oedd yno mewn gwirionedd. Mi fyddai wedi bod yn braf cael y Glastobury vibe, a phobol yn paentio wynebau ac ati. Gobeithio ei fod o yn gyfle i’r holl beth dyfu.”