William a Kate - yn arafu'r economi
Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi’r Teulu Brenhinol o fudd ynteu yn fwrn i Gymru…
Un ddadl sydd wedi ei hyrwyddo gan gefnogwyr y Teulu Brenhinol erioed yw eu bod nhw’n hwb i economi Prydain, am eu bod nhw’n dod a thwristiaid o bob cwr o’r byd i’n hynysoedd ni.
Mae sylwadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol y bore ma yn gwrth-ddweud hynny i ryw raddau. Mae’n debyg fod y Briodas Frenhinol, ar ben ffactorau eraill gan gynnwys y tsunami yn Japan, wedi tynnu tua 0.5% o dwf economaidd y wlad. A hynny yn ystod cyfnod hollbwysig i dwf economaidd Prydain.
Daw hynny wedi’r holl awgrymiadau cyn y briodas y byddai yn rhoi hwb o tua £2 biliwn i’r economi. O le daeth y ffigwr yna dwn i ddim – swyddfa’r wasg Clarenece House mae’n siŵr.
Ar ben yr ergyd economaidd rhaid ystyried i ba ran o’r wlad y mae unrhyw dwristiaid, ac felly unrhyw fudd economaidd, yn mynd – a’r ateb amlwg yw i Lundain, ble mae’r Teulu Brenhinol yn trigo.
Gellid dadlau mai’r aelod diwethaf o’r Teulu Brenhinol i roi unrhyw fath o hwb i economi Cymru oedd Edward I, a gyflwynodd sawl castell i’r genedl a fyddai o fudd wrth ddenu twristiaid 600 mlynedd yn ddiweddarach.
Beth ddylai Cymru ei wneud am hyn felly? Mewn ffordd mae agwedd llugoer Cymru at y Teulu Brenhinol yn golygu ein bod ni’n cael y gwaethaf o’r ddau fyd.
Dydyn ni ddim yn barod i’w cofleidio nhw a chymryd mantais lawn o’r ffaith mai Tywysog Cymru yw Charles, a bod William a Kate wedi penderfynu ymgartrefu ar Ynys Môn, er mwyn hybu enw da Cymru yn fyd-eang.
Ond mae yna ddigon o bobol yn eu hoffi nhw fel na fyddai yn bosib cael eu gwared nhw.
Ac rydyn ni dal yn gweld eisiau eu cynnwys nhw mewn ambell i seremoni arbennig – e.e. agoriad y Senedd – fel teulu yn tynnu’n hen lestri porslen o’r seld ar achlysur arbennig.
Ond drwy beidio cael eu gwared nhw rhaid i ni barhau i dalu amdanyn nhw, wrth gwrs.
Efallai mai’r agwedd gorau fyddai i’w trin nhw fel unrhyw adnodd naturiol arall – eu hyrwyddo nhw am eu bod nhw’n denu twristiaid, ond peidio â dangos unrhyw ddiddordeb ynddyn nhw ein hunain.
Mae’r agwedd yna wedi bod o fudd i bobol Caernarfon erioed. Dyw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth erioed wedi bod y tu hwnt i borth eu castell byd-enwog, ond dyna’r unig reswm y byddai unrhyw dwristiaid yn dewis mynd yno.