Mae economi Prydain wedi tyfu 0.2%, cyhoeddwyd heddiw.

Roedd y Ddinas wedi disgwyl i Gynnyrch Domestig Gros Prydain gynyddu 0.5% yn ail chwarter 2011.

Ond roedd rhai wedi darogan y bydd yr economi yn crebachu unwaith eto, a allai olygu fod Prydain ar ei ffordd i ganol dirwasgiad dwbl.

Roedd yr economi wedi tyfu 0% dros y chwe mis blaenorol.

Yn ôl prif economegydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd y Briodas Frenhinol, a’r tsunami a’r daeargryn yn Japan, wedi tynnu 0.5% o dwf economi Prydain.

Fel arall fe fyddai’r economi wedi tyfu 0.7%, meddai Joe Grice.

“Rydyn ni’n credu fod y digwyddiadau arbennig yma wedi lleihau Cynnyrch Domestig Gros Prydain tua 0.5%,” meddai.

Syrthiodd allbwn y diwydiant cynhyrchu 1.4% yn y tri mis ond cynyddodd allbwn y sector gwasanaethau 0.5%, ac fe dyfodd y sector adeiladu 0.5%.

Roedd y tywys poeth hefyd wedi cael effaith ar y galw am nwy a thrydan.

Mae’r ffigyrau heddiw yn golygu mai dim ond 0.7% y mae economi Prydain wedi tyfu ers blwyddyn – y twf arafaf ers chwarter cyntaf 2010.