Rhys Ifans
Cafodd yr actor Rhys Ifans ei arestio yn yr Unol Daleithiau ar honiad ei fod wedi “bwrw” swyddog diogelwch mewn gŵyl gîcs.

Yn ôl yr heddlu yng Nghalifornia, fe gollodd yr actor o Gymru ei dymer ar ôl i’r ddynes geisio ei atal rhag mynd i gefn y llwyfan yg ngŵyl Comic Con.

Dywedodd yr heddlu fod Rhys Ifans, 43, yn “anghwrtais ac ymosodol” ac wedi bwrw’r swyddog diogelwch yn ei brest.

Roedd yn cymryd rhan yn yr ŵyl yn San Diego yn yr Unol Daleithiau er mwyn hybu ffilm newydd Spider-Man. Mae’n chwarae rhan y gelyn Lizard.

Gadawodd y ddinas ddydd Gwener ac nid yw’n amlwg eto a fydd yn cael ei erlyn.