Gwilym Owen
Bydd Gwilym Owen yn cyflwyno ei raglen olaf am 1.15 heddiw.
Bydd Gwilym Owen yn cyflwyno’r rhifyn olaf o Wythnos Gwilym Owen ar BBC Radio Cymru, wedi gyrfa lliwgar a maith â’r gorfforaeth.
Bu’n ohebydd teledu yn y Gogledd i gwmni TWW ac wedyn i HTV, lle daeth yn bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes cyn ymuno â BBC Cymru.
Yn ei gyfnod gyda BBC Cymru bu’n gwneud nifer o swyddi golygyddol gan gynnwys Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes Cymraeg.
Er iddo ymddeol dros 10 mlynedd yn ôl, mae wedi parhau ar ei liwt ei hun yn cyflwyno Wythnos Gwilym Owen yn wythnosol yn ogystal â rhifynnau amrywiol o Manylu ar Radio Cymru.
“Mae cyfraniad Gwilym i newyddiaduraeth yn y Gymraeg wedi bod yn un unigryw,” meddai Keith Jones, Cyfarwyddwr BBC Cymru.
“Dros y blynyddoedd mae wedi cadw llygad barcud ar sefydliadau, gwleidyddion, cynghorau ac ati yn ogystal â chadw ei fys ar byls y genedl a’r iaith.
“Ar ei raglenni tydi ateb llipa, llithrig byth yn cael ei anwybyddu ac mae yn ei elfen yn herio’r hunanfodlon neu’r hunanbwysig.
“Wrth gwrs gyda’i lais cadarn, ei arddull bendant a’i benderfyniad digyfaddawd wrth fynd ar ôl rhai o straeon a phersonoliaethau mwyaf Cymru, mae Gwilym wedi cynhyrfu’r dyfroedd dros y blynyddoedd.
“Hoffwn ddiolch iddo am ei gyfraniad sylweddol i ddarlledu yn y Gymraeg a dymuno’n dda iddo. Iddo fo hefyd mae’r diolch, (neu arno fo mae’r bai!) fy mod i’n gweithio i’r BBC o gwbl ac rydw i’n ddiolchgar am hynny’n ogystal.”
Bydd y newyddiadurwr Guto Harri yn holi Gwilym Owen am ei yrfa yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Cylch, Dydd Mawrth, Awst 2, a bydd y sesiwn honno i’w chlywed ar raglen arbennig ar BBC Radio Cymru (Llun, Awst 8).