Ifor ap Glyn (Llun: S4C)
Mae peryg fod addysg yn lladd tafodieithoedd, meddai cyflwynydd rhaglen sydd wedi bod yn dathlu’r amrywiadau lleol.

Dyw athrawon yn aml ddim yn dod o’r ardaloedd lle maen nhw’n dysgu ac maen nhw hefyd yn dysgu iaith ‘safonol’ i’r plant, meddai Ifor ap Glyn.

Fe fydd yn codi’r cwestiwn yn Rhosllanerchrugog yn ardal yr Eisteddfod Genedlaethol wrth orffen ei gyfres o raglenni, Ar Lafar, i S4C.

“Yma, fel mewn llawer i ardal arall yng Nghymru, cilio mae’r dafodiaith leol,” meddai. “Dyw’r acenion cryf ddim i’w clywed mor aml, ac mae pryder nd ydi llawer o eirfa gyfoethog taid a nain ddim yn cael ei throsglwyddo i’r genhedlaeth nesa.

“Yr  iaith safonol yw prif gyfrwng yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol nid y dafodiaith leol – a does dim dal fod yr athrawon yn medru honno beth bynnag. Gall ysgol recriwtio’i staff o bob cwr o’n gwlad.”