Yr Odeon enwoca' - yn Leicester Square yn Llundain
Mae adroddiadau fod perchnogion cadwyn sinemâu fwya’ Ewrop wedi gwrthod cynnig i’w phrynu.

Yn ôl papur y Mail On Sunday, roedd dau gwmni menter wedi cynnig prynu’r Odeon ac UCI sydd â llond llaw o safleoedd yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsaam.

Roedd y cynnig, mae’n debyg, werth £1.1 miliwn ond fe gafodd ei wrthod gan y perchnogion presennol Terra Firma.

Maen nhw’n gyfrifol am y casgliad o 200 sinema ar draws Ewrop ers 2004, pan brynson nhw gwmni Odeon am £575 miliwn ac UCI am £310 miliwn.

Mae’r rhan fwya’ o’u sinemâu yng ngwledydd Prydain dan yr enw Odeon gydag UCI yn gweithredu mewn chwech gwlad Ewropeaidd, gan gynnwys Iwerddon.