Rhan o glawr hunangofiant Geraint Bowen - O Groth y Ddaear (Gwasg Gwynedd)
Mae beirdd a swyddogion fel ei gilydd wedi talu teyrngedau i’r cyn-Archdderwydd, Geraint Bowen.
Ac yntau’n enwog am ei Awdl Foliant i’r Amaethwr, fe fu’r bardd a’r ysgolhaig farw ar ddechrau’r Sioe Fawr.
Roedd yn 95 oed ac wedi ennill y Gadair Genedlaethol 65 o flynyddoedd yn ôl am yr awdl foliant.
Ym marn prifardd arall, roedd honno’n dangos ei fod yn etifedd i feistri mawr Oes y Cywyddwyr ac, ym marn Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, roedd Geraint Bowen wedi gwneud cyfraniad mawr i’r Eisteddfod a’r Orsedd.
Crefftus
Roedd yr Awdl Folinat i’r Amaethwr yn cael ei hystyried yn un o’r awdlau mwya’ crefftus i ennill y Gadair erioed, gyda chynganeddu cain a phatrwm cymhleth.
Roedd yr englyn cynta’n cynnwys llinell a ddaeth yn arwyddair bron i ffermwyr … “A heuo faes, gwyn ei fyd”.
Roedd yn Archdderwydd rhwng 1979 ac 1981 a, chyn hynny, yn olygydd cylchgrawn Y Faner yn 1977-8.
Roedd hefyd yn enwog am ei gyfrolau am ryddiaith Gymraeg ac, ar y cyd gyda’i wraig, Zonia Bowen, am gyfrol am hanes yr Orsedd.
Roedd yn genedlaetholwr tanbaid ac wedi bod yn amlwg wrth gefnogi’r ymgyrch iaith yn y 70au a’r 80au.
Roedd yn frawd i’r bardd Euros Bowen.
Ei farn ar ei lawes – teyrnged Elfed Roberts
Roedd Geraint Bowen wedi gwneud “cyfraniad mawr i’r Orsedd a’r Eisteddfod,” yn ôl Cyfarwyddwr y Brifwyl, Elfed Roberts.
Roedd yn disgwyl y safonau ucha’ gan yr Orsedd ac roedd ganddo farn bendant sut y dylai ymddddwyn.
“Roedd o’n ddyn onest iawn ac yn barod i wisgo’i farn ar ei lawes. Wrth siarad o’r Maen Llog, roedd o’n rhoi ei farn yn ddiflewyn ar dafod ac yn beirniadu cyrff nad oedd yn dangos parch at y Gymraeg.”
Wrth ddweud fod ganddo barch mawr at y cyn Archdderwydd, roedd Elfed Roberts hefyd yn cofio dadleuwr brwd: “Oedd o o gymorth mawr i rai o’i blaid o, ond roedd o’n anodd iawn i’w drechu os oedd o yn eich erbyn chi!
“Roedd tipyn o ddigrifwch yn perthyn iddo fo o dan yr wyneb – rhywbeth nad oedd pawb yn ei weld. Fyddwn i’n cael gair bach efo fo o hyd a fydda fo wastad yn gwneud i fi chwerthin.”
‘Etifedd y meistri mawr’ – teyrnged gan Donald Evans
Mae’r bardd a gafodd ei gadeirio gan Geraint Bowen yn Nyffryn Lliw yn 1980 yn dweud bod y cyn Archdderwydd yn etifedd i feirdd mawr clasurol Cymru.
“Bydd e’n cael ei gofio’n bennaf fel un o gynganeddwyr gorau’r ugeinfed ganrif – un o’r rhai mwyaf cywrain,” meddai’r Prifardd Donald Evans.
Yn ei farn ef, roedd yr Awdl Foliant i’r Amaethwr yn “em a thrysor” yn hanes barddoniaeth Gymraeg, gan ddefnyddio ffurf oedd yn her i’r gewri Oes y Cywyddwyr, megis Guto’r Glyn a Thudur Aled.
“Roedd yn etifedd i’r beirdd mwyaf sydd wedi bod yn ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg erioed – ac fe ddangosodd hynny yn 1946.
“Roedd tair agwedd i Geraint Bowen: roedd e’n fardd unigryw, yn Archdderwydd oedd yn llanw’i swydd â phresenoldeb ac yn ysgolhaig, yn arbenigwr ar yr ieithoedd Celtaidd ac yn gyfrifol am gyfrol fawr Gorsedd y Beirdd.
“Roedd yn feirniad llym, teg a threiddgar ar gystadleuaeth y gadair genedlaethol – gŵr mwyn er yn feirniad caled.”