Mae'r Sibrydion yn un o holeion wyth roc Cymraeg.
Mae un o drefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi dweud wrth Golwg360 heddiw ei fod yn “teimlo bod y Sîn Roc yn dadfeilio o’n cwmpas”, ac mae’r unig rai all ei hachub yw’r to ifanc.
Yn ôl Ywain Myfyr mae llai o gefnogaeth i gigs bach o amgylch y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roedd wedi clywed adroddiadau bod ieuenctid yn ardal Dinas Mawddwy’n teimlo bod £10 am docyn i Ŵyl Cân ar Dân y penwythnos diwethaf yn rhy ddrud ac mai ychydig o bobl ifanc oedd yno’n cefnogi’r digwyddiad.
“Rydan ni’n prysur gyrraedd man lle mai dim ond mewn dau le fyddwn ni’n gallu cynnal gigs sy’n llwyddiant, yn yr Eisteddfod a’r Sioe {Amaethyddol yn Llanelwedd],” meddai Ywain Myfyr.
V-Festival, Wakestock a Bestival
“O ran ieuenctid, mae adloniant a phatrymau adloniant wedi newid dros y deng mlynedd diwethaf,” meddai’r trefnydd a’r cerddor sydd wedi bod yn hyrwyddo gigs ers yr 1980au.
“Er bod arian yn brin ar hyn o bryd, dyw £10 ddim yn ddrud,” meddai’n cyfeirio at bris mynediad i Ŵyl Cân ar Dân.
“Bellach, mae carfanau mawr o ieuenctid yn arbed eu harian dros yr Haf i fynd i wyliau fel V-Festival, Wakestock a Bestival – ond ddim yn cefnogi gwyliau llai Cymraeg.
“Ni fyddai wedi bod yn bosibl i gynnal Wakestock yn y 1980au. Ni fyddai’r Cymry wedi cefnogi – byddai gymaint o ffrwgwd.”
Heb gefnogaeth i gigs Cymraeg, mae’n pryderu y bydd llai o gigs yn cael eu trefnu a safon y gigs yn gostwng yn sgil hynny.
“Os nad ydan ni’n defnyddio’r Sîn Roc, fel yr iaith, bydd hi’n marw…
“Mae gormod o edrych tua Lloegr a ddim digon tuag at Gymru.
“Efallai bod y cyfryngau yng Nghymru’n rhoi gormod o bwyslais ar lwyddo yn Lloegr hefyd,” meddai cyn dweud nad oes “dim byd mwy digalon i gerddorion na chwarae i babell wag”.
Roedd yn pwysleisio bod talent yng Nghymru, ond bod bandiau angen cyfleoedd i “ddatblygu eu crefft a pherfformio”.
‘Defnyddio neu golli’
“Mae angen mynd at ieuenctid a gwneud iddyn nhw sylwi bod rhaid i’r Sîn fod yn fyw a hyfyw yma drwy’r flwyddyn – nid jest yn yr Eisteddfod am wythnos.”
Doedd Ywain Myfyr ddim yn credu bod yr un sefyllfa ddifrifol yn wynebu grwpiau gwerin “oherwydd bod sîn Ewropeaidd a Cheltaidd” ehangach yn bodoli. “Dyw’r iaith ddim yn gymaint o ffin,” meddai.
Ond, er gwaethaf y sefyllfa a’r pryderon, dywedodd bod rhaid i’r ateb “ddod gan bobl ifanc” eu hunain.