Daw Wedi 7 yn fyw bob nos o Lanelli.
Mae Wedi 7 wedi ymuno gyda’i chwaer raglen Wedi 3 yn y dystbin darlledu.
Cwmni Tinopolis sy’n gyfrifol am wneud y ddwy raglen, gyda Wedi 3 am dri y p’nawn bob dydd o’r wythnos ac yn para awr, ac Wedi 7 wedyn am saith ac yn para hanner awr.
Hyd yn oed os bydd Tinopolis yn ennill y cytundeb newydd i wneud rhaglen gylchgrawn nosweithiol ar S4C y flwyddyn nesa’, ni fydd hi’n cael ei galw’n Wedi 7.
Daw’r brand Wedi 7 a Wedi 3 i ben eleni a bydd S4C yn gofyn am gynigion ddiwedd y mis ar gyfer cynhyrchu rhaglen gylchgrawn newydd sbon y flwyddyn nesa’.
Gyda swyddfeydd yn Llanelli a Chaernarfon, mae Wedi 7 a Wedi 3 yn cael eu cyflwyno gan sawl wyneb cyfarwydd gan gynnwys Angharad Mair, Gerallt Pennant, John Hardy, Siân Thomas, Elinor Jones a’r sêr ifanc Meinir Gwilym ac Aneirin Karadog.
Cofiwch y llyfrau
O lwyfan seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn neithiwr, lle’r oedd Wedi 7 wedi bod yn darlledu’n fyw, roedd Angharad Mair yn dweud fod angen i S4C barhau i roi sylw i lenyddiaeth Cymru.
“Roedd hi’n fraint a phleser i ni gael rhoi sylw i’r llyfrau ar rhestr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ar Wedi 3 a Wedi 7,” meddai Angharad Mair.
“Dim ond gobeithio y bydd pa bynnag raglenni newydd ddaw yn lle Wedi 7 a Wedi 3 hefyd yn cael y rhyddid i roi sylw i lyfrau Cymraeg.
“Mae’n bwysig fod S4C yn sylweddoli fod Wedi 7 wedi helpu i hybu marchnad lyfrau a cherddoriaeth a sefydliadau ag elusennau yng Nghymru. Mae’n hollbwysig fod hyn yn parhau.”
Bydd y cytundeb ar gyfer gwneud y rhaglen gylchgrawn newydd yn cael ei ddyfarnu yn yr Hydref.