Fe gafwyd Prif Weithredwr Cyngor Conwy, Byron Davies, yn ddieuog o dreisio cydweithwraig.

Roedd yr uwch swyddog 52 oed wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad gan ddweud fod y wraig briod 26 oed wedi cytuno i fynd yn ôl i’w fflat i gael rhyw.

Roedd y wraig – sydd hefyd yn gweithio i’r Cyngor – wedi dadlau ei bod yn rhy feddw i allu cytuno i hynny ac nad oedd hi’n cofio dim am y digwyddiad.

Roedd yr erlyniad wedi honni y byddai Byron Davies yn sicr o fod wedi sylwi bod y ferch wedi meddwi ond fe ddywedodd yntau ei fod wedi gofyn iddi ddwywaith a oedd eisiau rhyw.

Mae’r Prif Weithredwr wedi cael ei atal o’i waith ers i’r cyhuddiad gael ei wneud ym mis Mawrth y llynedd.

Yn y llys, fe ddywedodd Byron Davies ei fod yn byw yn Swydd Dyfnaint yn Lloegr.