Mae James Hook wedi cadarnhau ei fod yn ymuno gyda Perpignan ar gytundeb tair blynedd. 

Roedd y Cymro wedi cyhoeddi cyn y Nadolig ei fod yn gadael y Gweilch ac mae ‘na ddyfalu wedi bod er hynny am le fyddai’n chwarae nesaf. 

Fe fydd chwaraewr amryddawn y Gweilch yn symud i Ffrainc ym mis Gorffennaf ond fe fydd ar gael i chwarae i Gymru yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Lloegr a’r Ariannin ym mis Awst. 

Fe fydd Hook yn cael ei dalu tua £500,000 y flwyddyn- y swm mwyaf mae unrhyw chwaraewr o Gymru yn ei dderbyn. 

Mae Hook wedi dweud bod hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi cefnogi ei benderfyniad i adael Cymru i ymuno gyda Perpignan. 

“Mae wedi bod yn benderfyniad mawr i mi a fy nheulu.  Ond mae sawl peth yn apelio am y newid ac rwy’n edrych ‘mlaen,” meddai James Hook wrth bapur y Western Mail.   

“Roedden ni wedi meddwl llawer amdano llynedd ac rwy’n credu bydd y meysydd caled yn gweddu gyda steil fy chwarae”

Mae James Hook wastad wedi bod yn glir ei fod yn ffafrio chwarae yn safle’r maswr ond fe ddywedodd nad oedd ‘na sicrwydd o ba safle y byddai’n chwarae i Perpignan. 

“Does dim sicrwydd pa safle byddai’n chwarae, felly fe fyddai’n mynd allan yna i ddangos beth rwy’n gallu gwneud”

“Rwy’n credu bod pawb yn ymwybodol mae rhif deg yw’r safle rwy’n ffafrio chwarae, ac rwy’n credu fy mod i wedi gwneud yn dda yno dros yr wythnosau diwethaf.”