Fe fydd y gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol rhwng Wrecsam a Llundain yn dod i ben ddiwedd yr wythnos hon.
Fe gyhoeddodd cwmni Wrexham & Shropshire mai’r trên olaf fydd yr un hanner awr wedi chwech o Marylebone i Wrecsam nos Wener.
Mae’r cwmni, sydd bellach yn perthyn i’r un grŵp ag Arriva Cymru, yn rhoi’r bai ar y sefyllfa economaidd gan ddweud eu bod wedi ceisio pob ffordd i wneud y busnes yn broffidiol.
Fe fydd 55 o swyddi’n cael eu colli ond mae’r cwmni’n dweud y byddan nhw’n helpu’r gweithwyr i chwilio am swyddi eraill o fewn y diwydiant.
Roedden nhw’n pwysleisio hefyd nad yw’r cwmni wedi mynd i’r wal ac y bydd dyledion yn cael eu talu – fe fydd pobol sydd wedi prynu tocynnau ar ôl dydd Gwener yn cael cyfle i ddefnyddio gwasanaethau eraill.
Yn ôl y cwmni, roedd hi wedi dod yn amlwg nad oedd gobaith y byddai’r gwasanaeth yn talu’i ffordd – roedd wedi gwneud colled o £2.9 miliwn yn 2010.
Doedd y syniad o gydweithio rhagor gydag Arriva ddim yn cynnig achubiaeth chwaith, meddai’r Cadeirydd, Adrian Shooter.