Mae ymgynghorydd y Llywodraeth ar gyfraith terfysg yn dweud bod rhaid cael grymoedd i gyfyngu ar symudiadau pobol sydd dan amheuaeth o fod yn derfysgwyr, hyd yn oed heb achos llys.
Fe ddywedodd cyn-AS Maldwyn, Alex Carlile QC, bod yna rai pobol sy’n cael eu hamau o droseddu ond nad oes modd eu herlyn, a bod rhaid cael ffordd o amddiffyn cymdeithas rhagddyn nhw.
Fe ddaeth ei sylwadau wrth i’r Ysgrifennydd Cartref baratoi i gyhoeddi cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer pobol o’r fath.
Fe ddaeth yr hen Orchmynion Rheoli i ben yr wythnos hon a’r disgwyl yw y bydd Theresa May yn cyhoeddi fersiwn newydd, ychydig yn llai caeth.
Democratiaid yn erbyn
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y Glymblaid wedi bod yn erbyn y Gorchmynion Rheoli sy’n golygu nad yw’r bobol dan amheuaeth yn cael gwybod beth yw’r cyhuddiadau yn eu herbyn nac yn cael cyfle i’w hateb.
Fe alwodd Llafur am sicrwydd bod Theresa May wedi rhoi “gofynion y wlad” o flaen yr awydd i dawelu ofnau eu partneriaid yn y Llywodraeth. Roedd hynny’n bwysicach na bargeinio rhwng pleidiau, meddai eu llefarydd, Yvette Cooper.
Mae disgwyl mai Gorchmynion Goruchwylio fydd yr enw ar y trefniadau newydd ac y byddan nhw’n cynnig rhywfaint yn rhagor o ddarpariaeth gofal ac addysg.
Ond, yn ôl Alex Carlile, fe fydd yn rhaid iddyn nhw gynnwys cyfyngiadau ar hawl pobol i adael eu cartrefi ac i gyfarfod ag eraill.