Mae Heddlu yn yr Aifft wedi defnyddio nwy dagrau, bwledi rwber a phastynau i geisio clirio protestwyr o sgwâr yng nghanol Cairo.
Dyma un o’r gwrthdystiadau mwyaf ffyrnig yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Hosni Mubarak ers blynyddoedd ac mae’n dilyn terfysg tebyg yn Tunisia.
Mae dau brotestiwr ac un swyddog heddlu wedi’u lladd yn y gwrthdystiad a gafodd ei sbarduno gan yr helyntion yn y wlad gyfagos – roedd protestwyr yno hefyd yn gofyn am ateb i dlodi’r Aifft.
Roedd miloedd o brotestwyr wedi llenwi sgwâr Tahrir ger adeiladau’r senedd yng nghanol Cairo neithiwr – rhai yn taflu cerrig at swyddogion diogelwch ac eraill yn dringo tros faniau heddlu.
Swyddogion diogelwch
Fe ddaeth cannoedd o swyddogion diogelwch i’r sgwâr tuag un o’r gloch y bore gan arestio protestwyr, ymlid ymgyrchwyr i strydoedd bach a llenwi’r sgwâr gyda nwy dagrau.
Ar un adeg, roedd 20 o swyddogion i’w gweld yn curo un ymgyrchydd gyda phastwn. Roedd heddlu terfysg i’w gweld mewn grwpiau mawr yn yr ardal drwy gydol y nos.
Un dybiaeth yw y gall y gwrthdaro sbarduno rhagor o ddrwg deimlad ar flwyddyn etholiad Arlywyddol.
Cefndir
Mae Hosni Mubarak wedi bod yn Arlywydd ar yr Aifft ers ugain mlynedd ac mae’n briod gyda hanner-Cymraes o’r enw Suzanne. Roedd ei mam yn nyrs ac yn dod o Bontypridd, lle’r oedd ei thad hithau’n rheolwr pwll glo.