Mae disgwyl y bydd enw’r 350fed milwr Prydeinig i farw yn rhyfel Afghanistan yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Fe gafodd y milwr ei ladd mewn ffrwydrad i’r de o Nahr-e-Saraj yn nhalaith Helmand – mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod, meddai’r fyddin.
Fe ddywedodd llefarydd fod y milwr yn helpu clirio gwrthryfelwyr o’r ardal pan gafodd ei daro gan y ffrwydrad.
“Mae wedi rhoi ei fwyd i wasanaethu eraill – gan ymladd gormes … Doedd hi ddim yn bosibl gofyn mwy gan unrhyw filwr,” meddai’r llefarydd.
O’r 350 o farwolaethau Prydeinig sydd wedi bod yn Afghanistan ers dechrau’r rhyfel yn 2001, mae 309 wedi bod yn rhan uniongyrchol o’r ymladd.
Roedd y 41 arall o ganlyniad i salwch, anafiadau heb gysylltiad â brwydro a damweiniau ac mae’r fyddin yn parhau i ymchwilio i achos rhai o’r marwolaethau yn y categori hw