Mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith yn dweud ei fod yn “hynod siomedig” fod Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Is-ganghellor di-Gymraeg.

Fe ddywedodd Meirion Prys Jones wrth Golwg 360 bod y Brifysgol wedi anwybyddu barn y Bwrdd bod angen siaradwr Cymraeg.

Mae hefyd yn dweud mai trwy’r cyfryngau y cafodd y Bwrdd wybod am y penodiad, er eu bod yng nghanol trafodaethau gyda’r Brifysgol.

Fe gadarnhaodd bod y Bwrdd ar ganol ymchwiliad statudol i’r broses benodi a’r ystyriaeth a roddwyd i oblygiadau Cynllun Iaith y Brifysgol.

“Mae’n destun pryder sylweddol, felly, na roddodd y Brifysgol wybod i’r Bwrdd am y penodiad yn uniongyrchol, ac y bu’n rhaid i ni ddysgu am y newyddion drwy’r cyfryngau,” meddai Meirion Prys Jones.

Penodi Albanes

Cyhoeddwyd ddoe mai’r Athro April McMahon o Gaeredin sydd wedi ei phenodi yn Is-ganghellor newydd y brifysgol.

Mae hi’n arbenigwraig ar ieithoedd ac yn siarad Sgoteg, Ffrangeg ac Almaeneg – ond dim Cymraeg, er bod y Brifysgol wedi awgrymu y bydd hi’n dysgu’r iaith yn y dyfodol agos.

“Er gwaetha’r ffaith fod trafodaethau wedi bod rhwng y Bwrdd a’r Brifysgol, pan bwysleision ni droeon a thro mor bwysig yw hi i Is-ganghellor mewn sefydliad yng ngogledd Ceredigion feddu ar y Gymraeg, mae’n amlwg iawn mai ychydig iawn o ystyriaeth a roddwyd i’r elfennau hyn ganddyn nhw yn y pen draw,” meddai Meirion Prys Jones.

‘Siomedig’

Eisoes, roedd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi dweud wrth Golwg360 fod penodi person di-Gymraeg i swydd Is-ganghellor y Brifysgol yn benderfyniad “siomedig”.

Dywedodd Rhiannon Wade, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, eu bod nhw’n “mynnu bod yr Is-ganghellor newydd yn dysgu’r iaith”.

Fe ddywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360 ei fod yn siŵr ei bod hi’n “ffŵl Ebrill” ddoe.

“Yn anffodus, mae prifysgolion Bangor ac Aberystwyth yn ceisio cystadlu yn y farchnad rydd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddarparu addysg sydd yn ymateb i anghenion y gymuned leol a Chymru gyfan,” meddai.

‘Wrth fy modd’

Mewn datganiad, mae April McMahon wedi dweud ei bod wrth ei bodd â’r syniad o arwain Prifysgol Aberystwyth ac yn “edrych ymlaen at weithio’n gadarnhaol mewn amgylchedd dwyieithog a byw mewn ardal o Gymru sydd mor fywiog yn ddiwylliannol.”