Mae prif hyfforddwr y Scarlets wedi croesawu llwyddiant chwaraewyr y rhanbarth yn cael eu dewis i garfan ryngwladol Cymru.
Fe gododd y rhif i wyth brynhawn ddoe, wrth i’r chwaraewr rheng-ôl, Rob McCusker, gael ei gynnwys ar ôl i Toby Faletau o’r Dreigiau orfod tynnu’n ôl.
Eisoes, roedd rhai o chwaraewyr ifanc di-gap y rhanbarth – y maswr Rhys Priestland a’r blaenasgellwr Josh Turnbull – wedi cael eu cynnwys ar draul chwaraewyr mwy profiadol.
Y bachwr, Matthew Rees, fydd y capten ac fe fyddai’r nifer yn fwy fyth pe bai’r asgellwr, George North, yn iach.
Gogleddwr arall
Mae Rob McCusker, fel North, yn dod o’r Gogledd ac fe ddechreuodd ei yrfa gyda’r Wyddgrug – mae eisoes wedi ennill tri chap i Gymru.
“R’yn ni’n falch iawn tros ein holl fechgyn – yn arbennig Rhys a Josh sy’n cael cyfle am gap cyntaf,” meddai’r hyfforddwr, Nigel Davies.
“Maen nhw wedi gweithio’n galed y tymor hwn ac wedi cael perfformiadau cyson gry’ i ni ac maen nhw’n llawn haeddu’r cyfle yma.”