James Hook
Mae cefnogwyr clwb rygbi Perpignan yn cymryd yn ganiataol y bydd y Cymro, James Hook, yn cyhoeddi heddiw eu bod yn ymuno gyda nhw.
Mae disgwyl y bydd canolwr Cymru’n cadarnhau ei fod yn mynd at y clwb yng Nghatalunya ar gyfer y tymor nesa’ – mae wedi galw cynhadledd i’r wasg y bore yma.
Fe fu dyfalu ers tro wrth i Perpignan a Toulon gystadlu i arwyddo’r chwaraewr 25 oed sy’n awyddus i chwarae’n gyson yn safle’r maswr.
Y disgwyl y bydd yn cael cytundeb gwerth tua £1 miliwn – mae Perpignan yn enwog am dalu symiau anferth i chwaraewyr. Ar un adeg, roedd Dan Carter, maswr Seland Newydd, yn cael £35,000 y gêm.
A dyna un cysgod posib tros obeithion Hook, mae fforwm cefnogwyr Perpignan yn awgrymu eu bod nhw eisiau arwyddo Carter unwaith eto … ac ef yw maswr gorau’r byd.
Y dystiolaeth? Straeon fod Carter wedi prynu tŷ yn nhref lan-môr Collioure o fewn cyrraedd i Perpignan.