Mae mwy o famau beichiog yng Nghymru’n dal ati i smygu ac yfed nag yn un rhan arall o wledydd Prydain ac mae mwy ohonyn nhw’n rhy dew.
Dyna un o’r problemau iechyd sy’n wynebu’r wlad wrth i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi Strategaeth Ddrafft ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.
Maen nhw’n addo “profiad diogel ac iach i bob mam, lle bynnag y mae, a beth bynnag ei hamgylchiadau”.
Mae’r Strategaeth yn rhagweld y bydd rhagor o famau’n geni yn eu cartrefi neu mewn canolfannau bydwreiciaeth yn y gymuned. Un o’r amcanion yw cael llai o lawdriniaethau Caesaraidd a llai o achosion o sbarduno genedigaeth.
Yr ystadegau
O ystyried gwledydd Prydain i gyd …
- Yng Nghymru y mae mwya’ o famau beichiog sy’n rhy dew – 6.2%.
- Mae mwy o famau beichiog yn yfed rhywfaint yng Nghymru (88%) a mwy’n yfed trwy’r cyfnod (55%) – er bod alcohol yn gallu achosi problemau dysgu ac iechyd eraill i fabis.
- Mae mwy o famau beichiog yn smygu rhywfaint yng Nghymru (37%) a mwy’n smygu trwy’r cyfnod (26%) er bod smygu’n gallu cyfrannu at drafferthion yn ystod beichiogrwydd ac wrth eni, yn ogystal â chael effaith ar ffyniant plant.
Ardaloedd yn y Cymoedd sydd waetha’ o ran ysmygu ac mae’r Strategaeth Ddrafft yn dweud bod merched o gefndiroedd tlawd saith gwaith yn fwy tebyg o farw adeg disgwyl a geni.
Cefndir
Mae bron 35,000 o blant yn cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn ac mae’r gyfradd wedi bod yn codi o flwyddyn i flwyddyn.
Tros gyfnod o 15 mlynedd, mae disgwyl i nifer y genedigaethau yng Nghaerdydd godi o 1,400 y flwyddyn ac yn Abertawe o 400.
Fe fydd y ffigwr yn aros yn wastad yng Ngheredigion ac yn cwympo rhywfaint ym Merthyr Tudful ac Ynys Môn.
Meddai’r Gweinidog
Dyma sylwadau’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart: “Mae’r Strategaeth Ddrafft hon yn amlinellu sut y mae pob plentyn yng Nghymru’n cael dechrau diogel i’w bywyd a bod y fam, ei phartner, a’i theulu’n dechrau’r cyfnod o fod yn rhieni’n teimlo’n hyderus, yn alluog ac wedi eu cefnogi’n dda.
“Mae’r hyn sy’n digwydd trwy gyfnod disgwyl a hyd yn oed ynghynt na hynny yn effeithio ar iechyd plant, felly mae’n hanfodol bwysig fod yr ymdrech i sicrhau bod y fam a’r plentyn yn ddiogel ac iach yn dechrau ymhell cyn yr enedigaeth.”
Yn ôl Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Jane White, mae cyfnod beichiogrwydd yn gyfle i newid arferion iechyd ac fe allai hynny cael effaith cyffredinol ar iechyd a lles unigolion a chymunedau.