Fe fydd y BBC’n cyhoeddi manylion y toriadau i Wasanaeth y Byd, gyda’r disgwyl y bydd 650 o swyddi’n cael eu colli.

Fe ddaeth cadarnhad ddoe y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddileu mewn pump o ieithoedd rhyngwladol ac yn cael ei gwtogi mewn saith arall.

Fe fydd hynny’n arbed £46 miliwn ar fil cyfan o £272 miliwn ar ôl i’r Swyddfa Dramor gyhoeddi yn yr hydref y bydd eu cyfraniad at y gwasanaeth yn gostwng o 16%.

‘Ffyrnig’

Fe fydd undeb  y newyddiadurwyr, yr NUJ, yn cynnal protest y tu allan i adeiladau’r BBC heddiw i wrthwynebu’r toriadau sydd, medden nhw, yn “ffyrnig”.

Yn ôl yr undeb, fe fydd y toriadau hefyd yn ddyrnod i fuddiannau gwledydd Prydain tros y dŵr – y farn gyffredinol y bod Gwasanaeth y Byd yn creu enw da i wledydd Prydain trwy’r byd ac yn lledu eu dylanwad.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn colli 360 o swyddi yng ngwasanaethau ar-lein y BBC, gan gynnwys 16 yng Nghymru.