Mae hyfforddwr Cymru wedi corddi’r dyfroedd unwaith eto trwy gwestiynu safon chwarae Dylan Hartley. 

Dywedodd Warren Gatland mai bachwr Lloegr, Dylan Hartley, yw man gwan y Saeson.

Fe fydd Cymru a Lloegr yn wynebu ei gilydd yng ngêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm ar 4 Chwefror.

“Roedden ni’n hapus iawn â’n llinellau yn ystod gemau’r hydref. Ond fe aeth rhywbeth o’i le yn llinell Lloegr yn erbyn De Affrica,” meddai Gatland. 

“Ac fe welais i Dylan Hartley yn mynd ar chwâl braidd wrth i Northampton herio Caerlŷr.

“Mae Hartley yn geg i gyd.  Fe gawn ni weld beth sydd ganddo i’w gynnig pan fydd yn ei wynebu ni ar 4 Chwefror.”

Dyw Dylan Hartley ddim yn uchel ei barch ymysg aelodau carfan Cymru yn dilyn dwy gêm danllyd yn erbyn y Gleision cyn y Nadolig. 

Fe gafodd Hartley a bachwr y Gleision, Gareth Williams, eu hanfon i’r gell cosb yn dilyn ffrae ar y cae yn ystod y gêm gyntaf yng Ngerddi Franklin.    

Yna cafwyd mewnwr y Gleision, Richie Rees, yn euog o gyffwrdd y llygad Hartley a’i wahardd am 12 wythnos yn dilyn ail gêm yr wythnos ganlynol.

Roedd Dylan Hartley wedi rhoi tystiolaeth dros y ffôn i’r panel disgyblu cyn iddynt wahardd Richie Rees. 

Brwydr y blaenwyr

Mae Warren Gatland yn disgwyl y bydd Lloegr yn ceisio ennill y gêm ymysg y blaenwyr.

Dyw hynny ddim yn syndod, meddai, o gofio bod Gethin Jenkins ac Adam Jones yn absennol oherwydd anafiadau. 

“Does dim dewis gan Loegr ond ein herio ni ymysg y blaenwyr.  Dyw eu rheng flaen nhw ddim yn chwim iawn,” meddai Warren Gatland.

“Fe fydd eu cryfder nhw’n dod o’r sgrym.”