Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi dweud fod penodi person di-Gymraeg i swydd Is-ganghellor y Brifysgol yn benderfyniad “siomedig”.

Cyhoeddwyd heddiw mai’r Athro April McMahon sydd wedi ei phenodi yn Is-ganghellor newydd y brifysgol.

Mae hi’n arbenigwr ar ieithoedd ac yn siarad Sgoteg, Ffrangeg ac Almaeneg – ond dim Cymraeg, er bod y Brifysgol wedi awgrymu y bydd hi’n dysgu’r iaith yn y dyfodol agos.

Dywedodd Rhiannon Wade, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, eu bod nhw’n “mynnu bod yr Is-ganghellor newydd yn dysgu’r iaith”.

‘Ffŵl Ebrill’

Daw’r cam dadleuol ar ôl i Brifysgol Bangor benodi canghellor di-Gymraeg, yr Athro John Hughes, gan ddenu beirniadaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360 ei fod yn siŵr ei bod hi’n “ffŵl Ebrill” heddiw.

 “Yn anffodus, mae prifysgolion Bangor ac Aberystwyth yn ceisio cystadlu yn y farchnad rydd yn hytrach na chanolbwyntio ar ddarparu addysg sydd yn ymateb i anghenion y gymuned leol a Chymru gyfan.

“Rydym ni am weld sefydliadau, yn enwedig rhai megis Prifysgol Aberystwyth, yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Dyna’r nod ac felly mae’n hanfodol bod Is-gangellorion yn rhugl yn y Gymraeg. Wedyn ni fyddai problemau fel hyn yn codi.”

Yr Alban

Ar hyn o bryd, mae’r Athro McMahon yn Is-Brifathro Polisi Cynllunio, Adnoddau ac Ymchwil ym Mhrifysgol Caeredin. Fe fydd yn olynu’r Athro Noel Lloyd ar 1af o Awst 2011.

Yn frodor o Ororau’r Alban, enillodd yr Athro McMahon radd MA ym maes Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ac yna Doethuriaeth ym maes Iaith Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin.

Bu’n dysgu yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt am 12 mlynedd, lle’r oedd hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg Selwyn, a bu’n Athro Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sheffield o 2000 tan 2004.

Yn 2005 aeth yr Athro McMahon yn ei hôl i Brifysgol Caeredin ar ôl ei phenodi yn Athro Forbes Iaith Saesneg ac yn bennaeth ar yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth Saesneg. Yn dilyn hyn cafodd ei phenodi’n Bennaeth Coleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol cyn dechrau ar ei swydd bresennol yn Is-Brifathro ym mis Medi 2009.

‘Dwyieithog’

“Rydw i wrth fy modd â’r syniad o arwain Prifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at weithio’n gadarnhaol mewn amgylchedd dwyieithog a byw mewn ardal o Gymru sydd mor fywiog yn ddiwylliannol,” meddai April McMahon.

“Mae hwn yn gyfnod o heriau a chyfleoedd i brifysgolion ac rwyf yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda staff a myfyrwyr er mwyn arwain y Brifysgol drwy’r cyfnod nesaf yn ei datblygiad.”

‘Newid’

“Mae prifysgolion yn wynebu cyfnod o newid digyffelyb ac rwy’n arbennig o falch fod Aberystwyth wedi llwyddo i ddenu arweinydd newydd o safon yr Athro McMahon,” meddai Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Aberystwyth.

“Mae hi’n olynydd teilwng iawn i’r Athro Noel Lloyd, ac edrychaf ymlaen yn fawr i weithio gyda hi er mwyn datblygu Prifysgol a dywysir gan ymchwil, sy’n gystadleuol ar lwyfan byd-eang, ac sydd hefyd yn cyflawni ei hymrwymiadau yn rhanbarthol a chenedlaethol.”

Iaith

Ieithyddiaeth yw disgyblaeth academaidd April McMahon.

Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar gymariaethau rhwng gwahanol dafodiaethau Saesneg, gyda diddordeb arbennig mewn Sgoteg, sut mae ieithoedd yn newid, astudiaethau amlddisgyblaethol o’r berthynas deuluol rhwng ieithoedd, a goblygiadau ieithoedd mwyafrifol tresmasol.

Y mae hi’n awdur ac yn gydawdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Lexical Phonology and the History of English (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), Change, Chance, and Optimality (Gwasg Prifysgol Rhydychen), Understanding Language Change (Gwasg Prifysgol Caergrawnt), An Introduction to English Phonology (Gwasg Prifysgol Caeredin) a hi yw cyd-olygydd y cyfnodolyn English Language and Linguistics a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.

Y mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Caeredin ac o’r Academi Brydeinig ac yn aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig.