Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi beio’r tywydd gaeafol am amseroedd ymateb araf y gwasanaeth ambiwlans ym mis Rhagfyr.
Dim ond 42.7% o’r ambiwlansiau oedd wedi llwyddo i ymateb i alwadau brys categori A (y mwyaf difrifol) o fewn y targed 8 munud.
Cyrhaeddodd 52.1% o fewn naw munud a 56.7% o fewn 10 munud.
Dywedodd y gweinidog iechyd, Edwina Hart, bod “y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi bod dan bwysau mawr dros y gaeaf”.
Roedd rhaid ystyried yr ystadegau ar gyfer mis Rhagfyr “yng nghyd-destun y pwysau oedd y gwasanaeth yn ei wynebu,” meddai.
Dywedodd fod y gwasanaetha ambiwlans wedi derbyn 35,000 o alwadau brys fis diwethaf – cynnydd o 18% ar fis Rhagfyr 2009 a 23% ar fis Tachwedd 2010.
“Mae yna fwy o alw ar wasanaethau’r GIG bob Gaeaf ac rydym ni’n paratoi ar gyfer hynny o flaen llaw.
“Eleni roedd cyfnodau o dywydd arbennig o oer yn ogystal ag eira ac roedd hynny wedi rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau.”
Ymateb
“Mae’r ffigyrau yma yn dangos i ba raddau y mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi gwaethygu,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Nick Ramsay.
“Er bod y tywydd wedi chwarae rhan, rydym ni’n gweld tuedd cyson tuag at ymateb arafach i alwadau brys gan ambiwlansiau.
“Pe bai Llywodraeth y Cynulliad wedi paratoi am y tywydd gaeafol yn well, fe fyddai wedi bod yn haws i’r gwasanaethau brys ymateb.
“Does gen i ddim amheuaeth bod gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr ambiwlans wedi parhau drwy gydol mis Rhagfyr, ond y ffigyrau yma yw’r gwaethaf i ni eu gweld ers o leiaf pum mlynedd.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad angen mynd i’r afael gyda phwysau cyllidebol a gweithio’n well gyda phenaethiaid Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol.
“Allen ni ddim caniatáu i dywydd oer gael gymaint o effaith ar amseroedd ymateb y gwasanaethau brys, ac mae angen i Lywodraeth y Cynulliad weithio’n galed i wella pethau.”