Mae yna blant naw oed yng Nghymru sydd â’r hawl i gario drylliau, cyhoeddwyd heddiw.
Mae heddluoedd Cymru wedi rhoi 533 o drwyddedau i gario drylliau i bobol dan 18 oed dros y bum mlynedd diwethaf.
Cyhoeddodd Plaid Cymru y ffigyrau heddiw yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth i heddluoedd Cymru.
Yn ôl Deddf Drylliau 1968-1997 does yna ddim cyfyngiad oed ar gario drylliau yn y Deyrnas Unedig, er bod yna reolau llym yn ymwneud â’u defnyddio nhw.
Mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiad llawn i’r gyfraith drylliau, a chyflwyno terfyn oed er mwyn atal plant rhag cael trwydded.
“Fe fydd y cyhoedd yn synnu fod plant mor ifanc a naw oed wedi cael trwydded i ddefnyddio dryll hela,” meddai’r Aelod Cynulliad, Chris Franks.
“Er bod oedolion yn cadw llygaid ar y plant, mae damweiniau yn gallu digwydd, ac fe fyddai’n well gweithredu cyn i hynny ddigwydd, yn hytrach nag yn hwyrach ymlaen.”
Cafodd y ffigyrau eu darparu gan Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu De Cymru, a Heddlu Gwent.
Mae Heddlu Dyfed Powys ar eu pennau eu hunain wedi rhoi trwydded dryll i 318 o bobol dan 18.
Mae’r rheini yn cynnwys dau blentyn dan naw oed, yn ogystal â phlant 10 a 11 oed.
Cafodd trwydded person 15 oed ei diddymu yn ddiweddarach, er nad oedd unrhyw esboniad ynglŷn â pham.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi 71 trywdded i bobol dan 18 oed, ac roedd yr ifancaf yn 11 oed. Roedd naw wedi eu diddymu.