Mae cyn-bennaeth staff yr Arlywydd Barack Obama wedi ei wahardd rhag cymryd rhan yn yr etholiad i fod yn Faer Chicago.
Penderfynodd llys apêl talaith Illinois nad oedd Rahm Emanuel yn gymwys am nad oedd wedi bod yn byw yn y ddinas er iddo ddechrau gweithio yn y Tŷ Gwyn.
Mae’r penderfyniad wedi troi’r ymgyrch ar ei phen, mis yn unig o’r diwrnod pleidleisio.
Roedd Rahm Emanuel ar y blaen yn y polau piniwn cyn i’r llys benderfynu na fyddai’n cael cymryd rhan, ac roedd ganddo fwy o arian i’w wario na’r ymgeiswyr eraill.
Mae cyfreithwyr Rahm Emanuel wedi dweud eu bod nhw am fynd a’r mater i Lys Goruchaf Illinois. Ond mae amser yn brin ac fe fydd Bwrdd Etholiadau Chicago yn dechrau argraffu papurau pleidleisio heb enw Rahm arnynt o fewn dyddiau.
“Does gen i ddim amheuaeth ein bod ni’n mynd i lwyddo,” meddai Rahm Emanuel. “Dim ond un tro trwstan yw hwn.
“Mae gan bobol Chicago yr hawl i benderfynu pwy fydd eu maer nesaf.”